Cynlluniau y preswylfeydd myfyrwyr

Cynllun arfaethedig yr adeilad canolog fydd yn darparu ystod o swyddogaethau cymdeithasol, dysgu a byw gan gynnwys golchdai, storfa beiciau, gofod cymunedol ar gyfer clybiau a chymdeithasau, a chyfleusterau cyfrifiadurol

Cynllun arfaethedig yr adeilad canolog fydd yn darparu ystod o swyddogaethau cymdeithasol, dysgu a byw gan gynnwys golchdai, storfa beiciau, gofod cymunedol ar gyfer clybiau a chymdeithasau, a chyfleusterau cyfrifiadurol

12 Chwefror 2013

Mae cynlluniau ar gyfer preswylfeydd newydd fydd yn cael eu hadeiladu ar Fferm Penglais wedi cael eu gwneud yn gyhoeddus am y tro cyntaf.

Ar ddydd Llun 4 Chwefror cyhoeddodd y Brifysgol mai Balfour Beatty yw’r cynigydd ffafredig ar gyfer datblygiad y preswylfeydd newydd sy'n cynrychioli buddsoddiad cyfalaf o tua £ 45m.

Cafodd aelodau o'r cyhoedd, myfyrwyr a staff eu gwahodd i weld cynlluniau’r datblygiad arfaethedig newydd ym Mhenbryn ar ddydd Gwener 8 Chwefror ac yn yr Hen Goleg ar ddydd Llun 11 a Mawrth 12.

Wedi'i leoli yn union y tu ôl i bentref myfyrwyr arobryn Jane Morgan ac o fewn pellter cerdded i'r Brifysgol a champws Penglais a Llanbadarn, bydd y preswylfeydd newydd yn darparu llety ar gyfer 1000 o fyfyrwyr ac yn cynnwys 100 o fflatiau stiwdio.

Wedi'I ysbrydoli gan dirwedd a phensaernïaeth y Gymru wledig, mae'r datblygiad newydd yn cynnwys cyfres o adeiladau tri llawr gyda fflatiau i chwech neu wyth o fyfyrwyr mewn llety hunan-arlwyo.

Bydd ystafelloedd gwely sylweddol, en-suite yn cynnig  digon o le i fyfyrwyr fyw ac astudio gyda mynediad gwifrau caled a difwifr i’r rhyngrwyd.

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yr haf hwn a gobeithir y bydd y myfyrwyr cyntaf yn gallu symud i mewn erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd 2014.

Ymhlith y cyntaf i ymsefydlu fydd myfyrwyr sy'n byw ym Mhantycelyn. Adeiladwyd Neuadd Pantycelyn yn wreiddiol ym 1951, ac fe’i agorwyd hi fel neuadd ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn 1973. Mae hi wedi denu cenedlaethau o bobl ifanc sy'n dymuno astudio a byw trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn wahanol i'r Pantycelyn presennol, sydd wedi aros bron yn ddigyfnewid ers pan agorwyd hi dros 60 mlynedd yn ôl, bydd y Pantycelyn newydd yn cynnig cymaint mwy.

Ac mae'r myfyrwyr wedi bod yn rhan o'r broses o helpu'r Brifysgol i sicrhau bod y preswylfeydd newydd yn adlewyrchu dyheadau a  blaenoriaethau UMCA ( Undeb y Myfyrwyr Cymraeg) ac Undeb y Myfyrwyr fel bod y datblygiad cyfan yn gweithio i wella profiad y myfyrwyr.

Bydd lle canolog hefyd yn darparu ystod o swyddogaethau cymdeithasol, dysgu a byw gan gynnwys golchdai, storfa beiciau, gofod cymunedol ar gyfer clybiau a chymdeithasau, a chyfleusterau cyfrifiadurol. Bydd hefyd cae chwaraeon glaswellt newydd.

Mae'r cyhoeddiad am gynigydd ffafredig ar gyfer y prosiect yn benllanw proses a gychwynnwyd nôl ym mis Mawrth 2011. Drwy broses a elwir yn Ddeialog Gystadleuol derbyniodd y Brifysgol lefel uchel iawn o dendrau gan ddatblygwyr, cyn, yn y pendraw, ddyfarnu statws cynigydd ffafredig i Balfour Beatty.

Bydd Balfour Beatty nawr yn cyflwyno cynlluniau manwl i'r awdurdod cynllunio i ryddhau’r "materion a gadwyd yn ôl". Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol i'r prosiect ym mis Mawrth 2012.

Mae tîm prosiect y Brifysgol yn cael ei arwain gan Mr James Wallace, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Campws. Wrth siarad am y cynigydd ffafredig ar ôl y cyhoeddiad, dywedodd: "Rydym yn falch o'r cynnydd a wnaed gyda'r broses ddeialog gystadleuol. Rydym yn disgwyl i'r preswylfeydd gael eu trosglwyddo i ni yn 2014 a gweld myfyrwyr yn byw yn yr adeilad newydd pwrpasol, gwych, a fydd yn gam pwysig tuag at gyflawni nodau strategol y Brifysgol ".

Dywedodd Darpar Brif Weithredwr Balfour Beatty Andrew McNaughton,: "Rydym wrth ein bodd o fod wedi cael ein dewis fel y cynnigydd ffafredig ar gyfer y cytundeb hir-dymor yn y sector llety myfyrwyr, dyma ein ail lwyddiant yn y maes hwn mewn pum mis. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r gadwyn gyflenwi leol i gyflawni'r prosiect hwn. "

Mae Balfour Beatty hefyd yn datblygu llety myfyrwyr ar gyfer Prifysgol Caeredin mewn prosiect werth £ 110m.

Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y Brifysgol yn darparu gwasanaethau myfyrwyr yn y preswylfeydd newydd, tra bydd Balfour Beatty yn gyfrifol am gynnal a chadw'r adeiladau.

AU6413