Aberystwyth yn paratoi ar gyfer tlws y Campau

13 Chwefror 2013

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr Prifysgol Bangor dydd Sadwrn yma (16 Chwefror) i’r gystadleuaeth flynyddol campau aml-chwaraeon , yn yr hyn a dybir i fod yn gêm agos rhwng y ddwy ochr.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, bydd y digwyddiad yn gweld y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyfanswm o 34 o gampau,  yn amrywio o lacrosse a hwylio i chwaraeon mwy traddodiadol fel rygbi, hoci, pêl-droed a badminton.

Cedwir y teitl bob amser gan y tîm cartref ac ar hyn o bryd mae’r tlws gan Brifysgol Bangor ond gydag Aberystwyth eisioes yn fuddigol mewn  dwy gamp eleni,  bydd y pwysau ar yr ymwelwyr  ddydd Sadwrn yma.

Dyma Ioan Evans, Swyddog Gweithgareddau Myfyrwyr  Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth, i egluro, " Cynhaliwyd  y marchogaeth a'r digwyddiad showdance yr wythnos diwethaf ac Aberystwyth enillodd y ddau ddigwyddiad, felly rydym yn hyderus iawn o’n siawns i adennill y tlws! Bydd y 32 camp sy'n weddill yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn.

"Rydyn ni’n disgwyl mwy na 1,000 o fyfyrwyr i fod yma, gan wneud y gystadleuaeth chwaraeon yr un fwyaf o'i fath. Y peth gwych am y digwyddiad yw’r amgylchedd  sydd mor gyfeillgar a llawn hwyl ac mae’n gwella blwyddyn ar ôl blwyddyn. "

Trefnir amrywiaeth o gystadlaethau a digwyddiadau rhyng-golegol fel hyn rhwng prifysgolion Cymru drwy gydol y calendr academaidd, ond mae’r cythraul cystadlu ar ei gryfaf yn ystod y gystadleuaeth campau Prifysgol.

AU6313