Comisiwn y Gyfraith y Aberystwyth

Logo Comisiwn y Gyfraith

Logo Comisiwn y Gyfraith

07 Mawrth 2013

Yfory, dydd Gwener 8 Mawrth, bydd Comisiwn y Gyfraith yn cynnal seminar yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod creu Pwyllgor Ymgynghorol Cymreig.

Mae'r cadeirydd, yr Arglwydd Ustus (Syr David) Lloyd Jones, wedi bod yn farnwr yn Llys yr Apêl ers mis Hydref 2012, yn Gadeirydd Comisiwn y Gyfraith a hefyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Yn gorff annibynnol statudol a grëwyd gan Ddeddf Comisiynau'r Gyfraith 1965, nod Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr yw adolygu’r gyfraith ac i argymell diwygio lle bo angen.

Mae Mandad y Pwyllgor Ymgynghorol yn debygol o gynnwys cynghori ar y dewis o brosiectau ar gyfer 12fed Rhaglen Comisiwn o ddiwygio'r gyfraith. Credir y bydda gan y Pwyllgor rôl werthfawr i'w chwarae mewn perthynas â'r broses ymgynghori ac wrth asesu prosiectau arfaethedig o fewn meysydd polisi neu wedi eu datganoli yn rhannol i Lywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru, neu sy'n cael effaith sylweddol ar gyfrifoldebau datganoledig.

Eglurodd yr Athro Noel Cox, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg, "Mae sefydlu’r corff newydd hwn, i gynghori a chefnogi Comisiwn y Gyfraith, yn fenter newydd bwysig i ddod â gwaith y Comisiwn yn agosach at bobl Cymru, ac i annog cyfranogiad llawnach yn y broses o ddiwygio'r gyfraith.

"Rydym yn hapus iawn i gynnal y cyfarfod pwysig yma, ac i fod yn rhan o sefydlu'r sefydliad o bwyllgor newydd."

Dywedodd Syr David Lloyd Jones, "Mae Comisiwn y Gyfraith yn awyddus i bobl Cymru i gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn y broses o ddiwygio'r gyfraith. Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am gynnal y seminar ac yn gobeithio gweld dylanwad y Pwyllgor Ymgynghorol yn cael ei adlewyrchu yn ein 12fed Rhaglen nesaf."

Bydd Syr David hefyd yn cynnal darlith i staff a myfyrwyr am 5 o’r gloch brynhawn heddiw, dydd Iau 7 Mawrth yn ystafell C22 yn Adeilad Hugh Owen, pan fydd yn trafod y broses o ddiwygio'r gyfraith.

Mae Syr David wedi bod yn farnwr yr Uchel Lys, Adran Mainc y Frenhines ers 2005. Roedd hefyd yn Farnwr Llywyddol Cymru o 2008 i 2011.

AU1313