Dyfeisio a Darganfod

18 Mawrth 2013

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu mwy na 2,000 o ddisgyblion o 20 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Ngheredigion, Powys a Gwynedd ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon (19-21 Mawrth) ar gyfer gŵyl wyddoniaeth.

Mae'r ŵyl tri diwrnod a drefnir gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol, yn rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg 2013 sy'n rhedeg o 15 tan 24 Mawrth.

Dyma ddathliad llawr gwlad mwyaf Cymru a’r Deyrnas Gyfunol o bopeth sydd yn ymwneud â gwyddoniaeth a  pheirianneg.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad Roger Morel o Brifysgol Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol, "Nod y digwyddiad hwn yn dangos sut y mae pob cangen o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, cyfrifiadureg a mathemateg yn ymwneud â'n bywydau bob dydd ac yn cynorthwyo i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr gyda gweithgareddau llawn hwyl a chyfranogol.

"Addysg i bawb yw amcan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad. Rydym am i bobl, beth bynnag fo’u cefndir, gael cyfle i dderbyn addysg uwch ac yn aml y cam cyntaf ar y daith addysgiadol hon yw dod â phobl i’r campws ar gyfer digwyddiad o'r math hwn."

"Nod gŵyl 'Dyfeisio a Darganfod' hefyd yw arddangos y gwaith gwyddonol rhagorol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn ehangu gwybodaeth o wyddoniaeth ymhlith plant ysgol a dangos iddynt pa mor bwysig yw yn ein bywydau ni oll," ychwanegodd Roger.

Bydd y rhai sy'n mynychu'r ŵyl yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arbrofion byw gyda phlanhigion, cwrdd ag anifeiliaid gwyllt  yn ogystal â deall llosgfynyddoedd a newid yn yr hinsawdd.

Bydd stondinau rhyngweithiol gan adrannau Mathemateg a Ffiseg, Cyfrifiadureg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol yn ogystal â Chyngor Sir Ceredigion.

Cynhelir yr ŵyl yn y Gawell Chwaraeon ar gampws Penglais y Brifysgol. Mae gwahoddiad cynnes i aelodau o'r cyhoedd, a bydd sesiwn Dydd Mercher ar agor tan 6 yr hwyr. Oriau agor ar gyfer disgyblion ysgol ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau fydd 9:30 y bore tan 3 y prynhawn.

AU8713