Canolfan y Celfyddydau

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

27 Mawrth 2013

Datganiad a ryddhawyd ar ddydd Sul 24 Mawrth gan Brifysgol Aberystwyth.

Bydd nifer ohonoch wedi darllen am Ganolfan y Celfyddydau a dau aelod o staff ein Prifysgol yn y wasg leol; roeddem wedi ein siomi’n fawr gan y sylw hwn.

Rydym yn cymryd o ddifri ein cyfrifoldeb dros les ein staff.  Mae’r Brifysgol yn gwneud pob dim posib er mwyn sicrhau bod materion yn ymwneud â staffio yn aros yn gwbl gyfrinachol bob tro, ac mae gennym bolisi cyffredinol i beidio cyhoeddi unrhyw wybodaeth sy’n cyfeirio at unigolion.  Rydym yn parhau i ymrwymo i hyn, ac ni fyddwn yn trafod unrhyw fater yn ymwneud ag aelodau staff y Brifysgol.

Cafwyd cwestiynau hefyd am ymrwymiad y Brifysgol i adnoddau cyhoeddus yng Nghanolfan y Celfyddydau.  Gadewch imi roi trefn ar bethau.

Nid yw’r Ganolfan yn cau. Does dim cynllun i newid yn sylweddol ar ddefnydd y Ganolfan, nag i ddieithrio neu wahardd unrhyw aelod o’r gymuned. Ers ei chychwyn ddeugain mlynedd yn ôl, mae Canolfan y Celfyddydau yn elfen greiddiol o’r Brifysgol ac mi fydd yn parhau i fod yn ased gwych ar gyfer y gymuned a’r Brifysgol fel eu gilydd.  Nid ydym yn cydnabod yr awgrym bod ‘cynlluniau mawr’ ar y gweill.

Mae Cynllun Strategol Canolfan y Celfyddydau, a gymeradwywyd gan Fwrdd Ymgynghorol y Ganolfan ei hun, a Chyngor y Brifysgol, yn datgan yn glir ein bwriad i barhau i ddarparu adnoddau, perfformiadau, cyrsiau a digwyddiadau gwych ar gyfer ein cymuned ehangach.  Mae Cynllun Strategol y Brifysgol yn datgan yn glir pwysigrwydd y Brifysgol i’r gymuned leol a phwysigrwydd y gymuned leol i’r Brifysgol.  Ar adeg pan yr ydym wedi penodi dau  Athro Ymgysylltu â'r Cyhoedd, ac wrthi’n gwneud trefniadau ar gyfer Diwrnod Agored i groesawu’r dref, byddai’n hynod o beth petawn am gilio rhag yr ymrwymiadau hyn.  I’r gwrthwyneb yn llwyr!

Serch hynny, mae’n wir dweud bod rhai lleoedd o fewn y Ganolfan ddim yn cael eu defnyddio i’r eithaf. Er enghraifft, pan fo perfformiad neu ddigwyddiad yn dod i’r Neuadd Fawr, efallai na fydd ei angen tan gychwyn y prynhawn ac mae digon o sgôp i weld os oes modd ei ddefnyddio fel darlithfa ar rai boreau.  Mae’r un peth yn wir am y Sinema; pan nad oes ffilmiau wedi eu trefnu, mae’n lleoliad arbennig ar gyfer darlithoedd cyhoeddus neu gyfarfodydd staff.  Ni ddylai fod yn annisgwyl bod Prifysgol am gynnig yr adnoddau gorau posib i’w myfyrwyr. Nid yw hyn yn effeithio ar ddefnydd Canolfan y Celfyddydau gan y cyhoedd yn Aberystwyth a chanolbarth Cymru. Yn syml, mae’n golygu defnyddio ein gofod a fyddai fel arall yn sefyll yn wag. Gallwn sicrhau felly y bydd Canolfan y Celfyddydau yn brysurach, yn fwy bywiog ac yn aml-bwrpas.  Bydd defnydd cynyddol o’r Ganolfan gan y gymuned leol, sy’n cynnwys ein myfyrwyr a’n staff, yn golygu y bydd dyfodol llewyrchus i Ganolfan y Celfyddydau.

Mae Canolfan y Celfyddydau yn dathlu ei phen-blwydd yn 40ain oed eleni.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddyfodol cyffrous a chreadigol iawn iddi.

Rwy’n diolch yn fawr i chi, a phawb arall sydd wedi cysylltu â mi, unai’n uniongyrchol  neu’n anuniongyrchol, drwy wneud sylw ar gyfryngau cymdeithasol neu trwy fynegi barn fel arall, am eich diddordeb a’ch hoffter tuag at Ganolfan y Celfyddydau.  Mae hyn yn allweddol i’w llwyddiant parhaus.  Edrychaf ymlaen at eich gweld yn gwneud y mwyaf o’n hadnoddau ardderchog yn fuan iawn.

Yr Athro April McMahon

Is-Ganghellor