Lansio cyrisau theatr newydd

Yn lansio Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith Prifysgol Aberystwyth (Chwith i’r Dde) mae Tony Orme, Rheolwr Menter, Richard Cheshire, Arweinydd Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor, a Dr Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol.

Yn lansio Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith Prifysgol Aberystwyth (Chwith i’r Dde) mae Tony Orme, Rheolwr Menter, Richard Cheshire, Arweinydd Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith, Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor, a Dr Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a’r Celfyddydau Creadigol.

28 Mawrth 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig y cyfle i ennill cymhwyster Addysg Uwch yn rhad ac am ddim i unigolion yn y diwydiant theatr drwy'r Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen DSW yn darparu cyrsiau cryno, byr cydnabyddedig Prifysgol sydd wedi'u cynllunio i gael eu cwblhau tra bod gweithiwr neu gyflogwr yn parhau i weithio.  Bydd yn caniatáu i berson gael uchafswm o 60 credyd Brifysgol, sy'n cyfateb i ddiploma Prifysgol.

Eglurodd Richard Cheshire, arweinydd y prosiect DSW ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym yn cynnig dau gwrs sydd â'r nod o ymestyn a gwella gwybodaeth unigolyn a'u dealltwriaeth o brosesau ac arferion theatr.

"Gall pobl sy'n gwneud cais fod yn gymwys ar gyfer cyllid rhannol neu llawn ar gyfer y cyrsiau. Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cymhwyster addysg uwch oherwydd bod y farchnad swyddi yn mynd yn fwy a mwy cystadleuol ac y byddai’n gwella sgiliau a gwybodaeth yr unigolyn."

Ychwanegodd Is-Ganghellor y Brifysgol, April McMahon: "Un o'n hamcanion yw creu mwy o gyfleoedd i bobl sy'n astudio yma drwy ddatblygu eu sgiliau a gwneud y mwyaf o'u potensial.

"Y peth gwych am y Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith yw y gall unigolyn ennill cymhwyster Prifysgol tra'n dal i weithio a allai wella datblygiad personol a gyrfa unigolyn yn aruthrol. Mae unigolion yn elwa ar arbenigedd yn y Brifysgol, ond mae'r Brifysgol hefyd yn elwa o fewnwelediad yn uniongyrchol o’r gweithle."

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid, bydd angen i chi fod yn gyflogedig yn y sector preifat ac yn byw neu'n gweithio yn y Rhanbarth Cydgyfeirio Cymru sy'n cynnwys 15 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn eu plith Ceredigion, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Bydd Aberystwyth yn cynnig dau gwrs. Y cyntaf fydd cwrs Mentora Gweithiwr Theatr sy'n anelu at wella sgiliau beirniadol a chreadigol unigol yn y meysydd actio, cyfarwyddo theatr, dylunio a thechnegol a rheoli llwyfan.

Yr ail fydd cwrs Datblygiad Creadigol Cwmni, a fydd yn darparu cyfle i weithwyr sy’n gweithio yn y diwydiant celfyddydau perfformio i ddatblygu ac ymestyn eu medrau creadigol a’i sgiliau mewn pynciau penodol.

Mae’r cyrsiau yn dechrau ym mis Mai 2013, ac mae disgwyl i un cwrs gymryd tri mis i’w gwblhau tra’n astudi’n rhan amser.  Os yw’r cyrsiau o ddiddordeb cysylltwch â Rebecca Edwards yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (TFTS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 01970 621651.

Dysgu Seiliedig ar Waith
Mae'r rhaglenni £3.2bn Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 yng Nghymru yn cynnwys y rhaglenni Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (olynydd Amcan 1), a Chystadleurwydd Rhanbarthol a Chyflogaeth ar gyfer Dwyrain Cymru. Mae'r rhaglenni yn cael eu darparu drwy Lywodraeth Cymru ac yn cael eu hanelu at greu cyfleoedd cyflogaeth a hybu twf economaidd.

TFTS

Mae'r Adran yn darparu cyfleoedd addysg ac ymchwil o safon uchel i fyfyrwyr a ddaw o Gymru, Prydain, Ewrop a thu hwnt. Fel un o'r Adrannau mwyaf, a mwyaf arwyddocaol o'i bath, ei chenhadaeth hanesyddol yw i ateb anghenion ac uchelgeision amrywiol ei haelodau a rhan ddeiliaid. Mae'r Adran wedi ymroi i gynnal ymchwil dra-blaengar a darparu rhaglenni arloesol ar draws ei disgyblaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r Adran yn ymfalchïo yn ei gallu i ddatblygu a magu ysgolheigion ac arweinwyr diwydiant y dyfodol.

AU11013