Dysgu ac addysgu sy’n ysbrydoli

Dr James Vaughan yn derbyn Gwobr Adran y Flwyddyn ar ran Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng ngwobrau 2012.

Dr James Vaughan yn derbyn Gwobr Adran y Flwyddyn ar ran Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng ngwobrau 2012.

05 Ebrill 2013

Bydd academyddion ac aelodau o staff ar draws y Brifysgol sy'n disgleirio am eu gallu i ysbrydoli, herio ac ymgysylltu gyda myfyrwyr yn cael eu cydnabod gan gorff y myfyrwyr mewn seremoni wobrwyo proffil uchel ddiwedd mis Ebrill.

Dan arweiniad Undeb y Myfyrwyr, gyda chefnogaeth y Brifysgol, mae’r Gwobrau Addysgu yn anelu at annog myfyrwyr i gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu profiad dysgu ac addysgu ac amlygu meysydd o arfer gorau gan ddarlithwyr, llawer ohonynt yn arweinwyr byd mewn arferion addysgu arloesol.

Bydd myfyrwyr  yn enwebu ar-lein mewn 8 categori gyda chyfarfod panel myfyrwyr, staff ac allanol yng nghanol mis Ebrill i ddewis rhestr fer. Bydd yr enillwyr yn y pen draw yn cael eu cyhoeddi a'u gwobrwyo mewn noson wobrwyo staff a myfyrwyr ar y cyd, a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr ar Ebrill 30ain.

Bydd y Gwobrau hefyd yn cydnabod ac yn gwobrwyo'r cynrychiolwyr cwrs hynny sy’n gweithio ar lawr gwlad yn y Brifysgol i sicrhau bod materion academaidd yn cael eu cyfleu i bersonel uwch. Bydd myfyrwyr yn gallu enwebu o blith eu hunain ar gyfer y gwobrau Cynrychiolydd Myfyrwyr Flwyddyn ac Adran y Flwyddyn.

Dywedodd yr Is-Ganghellor John Grattan: “Dyma fenter wych ar ran Urdd y Myfyrwyr. Mae gan Brifysgol Aberystwyth enw da am fodlondeb myfyrwyr gyda’r ddarpariaeth addysgu. Pa ddull gwell o gydnabod hyn na thrwy roi cyfle i’r myfyrwyr i leisio’u barn, a dweud pwy, yn eu tyb nhw, yw’r sêr wrth eu haddysgu a’u hysbrydoli. Y mae hefyd yn braf gweld staff cynhorthwyol yn cael eu canmol am eu cyfraniadau hwythau yn ogystal â’r myfyrwyr sy’n chwarae rhan mor weithgar wrth ddarparu adborth i Adrannau.”

AU11613