Gwneud, twtio a thrwsio

(Chwith – Dde) Diane Logan a Carys Hedd, sydd eu dwy yn diwtoriaid tecstiliau Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, ac Alison Pierse o YADGO yn dathlu’r wobr.

(Chwith – Dde) Diane Logan a Carys Hedd, sydd eu dwy yn diwtoriaid tecstiliau Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, ac Alison Pierse o YADGO yn dathlu’r wobr.

09 Ebrill 2013

Mae rhaglen o gyrsiau gwnïo ym Mhrifysgol Aberystwyth, a gynlluniwyd i ailgylchu ac uwch-gylchu hen ddillad yn hytrach na’u taflu i safleoedd tirlenwi ac i annog busnesau bach yng Nghymru, wedi ennill Gwobr Dysgu Gydol Oes genedlaethol Cymdeithas y Prifysgolion.

Cyflwynwyd y wobr am gwrs arloesol dylunio a chynaliadwyedd i Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes (YADGO) y Brifysgol. Nod y cynllun yw cydnabod a dathlu prosiectau, rhaglenni mewn cynaliadwyedd ac arferion sy'n hyrwyddo dysgu gydol oes yn y Sector Addysg Uwch.

Eglurodd Alison Pierse, Cydlynydd Celf a Dylunio YADGO, "Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y wobr hon. Mae'n golygu llawer iawn i ni oherwydd rydym yn falch iawn o'n tiwtoriaid, eu hegni wrth hyrwyddo’r cyrsiau a'u sgiliau cryf wrth gefnogi myfyrwyr sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y niferoedd sydd wedi cofrestru ar ein cyrsiau tecstilau.

"Ein nod yw darparu a magu hyder ein myfyrwyr a rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sefydlu busnes bach o gartref. Maent yn taro tant gyda phobl oherwydd bod y modiwlau yn delio gyda chyflogadwyedd o fewn cymunedau gwledig bach ac yn cael eu darparu mewn cydweithrediad â busnesau bach a lleoliadau lleol."

Llynedd fe ychwanegwyd pedwar cwrs mewn ymateb i'r galw gan fyfyrwyr.  Mae’r modiwlau cyflenwol eraill yn cynnwys Uwch-gylchu Dillad a Gwneud Patrymau, Technegau Tecstilau, Dylunio Gwefannau, Dylunio Tecstilau Digidol drwy Photoshop a Marchnata Eich Hun fel Ymarferydd Celf.

Mae'r cyrsiau yn cael eu dysgu mewn neuaddau pentref a chanolfannau yn y gymuned drwy Geredigion, Sir Benfro a Phowys ac yn darparu amgylchedd dysgu bywiog yn ogystal â lle i gymdeithasu a chael hwyl.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, ewch i wefan YADGO http://www.aber.ac.uk/cy/sell/ ar neu cysylltwch รข Alison Pierse ar chp@aber.ac.uk

AU11413