Penllanw o gyfrinachau

Dr David Wilcockson yn astudio’r pyllau dŵr yn Aberystwyth

Dr David Wilcockson yn astudio’r pyllau dŵr yn Aberystwyth

10 Ebrill 2013

Mae cyfrinachau am sut mae anifeiliaid yn addasu i lif llanw’r môr yn cael eu datgelu gan y darlithydd Dr David Wilcockson o Brifysgol Aberystwyth mewn rhaglen ddogfen 'The Secret Life of Rock Pools' a ddarleddir ar BBC4 ar 16 Ebrill 2013.

Mae cyflwynydd y rhaglen, yr Athro Richard Fortey yn darganfod mwy am fywyd rhyfeddol creaduriaid sy’n byw mewn pyllau glan môr. Dr David Wilcockson, darlithydd mewn bioleg y môr yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth ac arbenigwyr blaenllaw sy’n helpu i archwilio'r amgylchedd anarferol hwn.

Mae’r rhaglen yn edrych ar ymddygiad rhyfeddol y creaduriaid morol ac mae’r arbenigwyr yn datgelu sut mae’r anifeiliaid yn ymdopi â bywyd rhwng llanw a thrai yn yr Acwariwm Morol Cenedlaethol yn Plymouth ac ar draethau amrywiol o gwmpas y DG.

Wrth ddisgrifio ei gyfraniad mae Dr Wilcockson yn esbonio "Mae anifeiliaid sy'n cael eu herio, gan lifogydd achlysurol, yn rheolaidd neu sy’n agored i effaith llif y llanw yn addasu eu  hymddygiad a’u cyfansoddiad. Dyma sy’n eu galluogi nhw i oroesi a ffynnu mewn amgylchedd cymhleth sy'n newid yn gyflym.

Un thema bwysig o’r ymchwil yw’r clociau biolegol sy’n bodoli yn ddwfn mewn ymennydd anifeiliaid megis cramenogion.

Esbonia Dr Wilcockson "Mae gan bob organeb, yn cynnwys bodau dynol, gloc biolegol sy'n cadw amser â'r amgylchedd. Dyma beth sy’n eu gwneud nhw i ymddwyn yn benodol ar adegau gwahanol o'r dydd. Fodd bynnag, tra bod gan bobl a chreaduriaid daearol eraill glociau 24 awr sy’n cael eu cydamseru â golau dydd a thywyllwch y nos, mae gan yr anifeiliaid sy’n byw rhwng y pen llanw a’r distyll glociau sy'n dilyn y cyfnod llanw o 12.4 awr. "

Yn y rhaglen ddogfen mae Dr Wilcockson yn dangos sut mae anifail sy’n berthynas morol i’r mochyn coed  (Eurydice pulchra) yn nofio ar gyfnodau 12.4 awr i gyd-fynd ag amser disgwyliedig pen llanw yn ei gynefin. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os caiff ei dynnu oddi ar ei amgylchedd arferol - yn yr achos hwn ei symud o Aberystwyth i Plymouth.

Mewn ymchwil a gynhaliwyd yn IBERS dangosir sut mae'n hanfodol i organebau rhynglanwol gael mesurydd amseru er mwyn eu galluogi i nofio, bwyta, paru a gorffwys ar adegau cywir o’r llanw. Mae’r anifeiliaid hyd yn oed yn gallu rhagweld symudiadau’r llanw er mwyn paratoi eu hunain ymlaen llaw ar gyfer gweithgaredd neu orffwys .

Ychwanegodd Dr Wilcockson mwy o fanylion diddorol am ymddygiad y creaduriaid glan  môr. “ Yn y rhaglen rwyf hefyd yn dangos bod crancod benywaidd yn rhyddhau fferomonau grymus sy'n denu crancod gwryw a'u hysgogi i ymddwyn yn ystrydebol. Mae’r ymddygiad hwn wedi esblygu i warchod y cranc benyw wrth iddi baratoi i ddiosg ei chragen galed er mwyn tyfu. Wedi hyn, a dim ond ar yr adeg hynny pryd gall y gwryw baru  gyda’r cranc benyw.

“Mae'r enghraifft hon yn dangos sut mae rhai rhywogaethau yn defnyddio fferomonau  i gychwyn carwriaeth a pharu yn yr amgylchedd glan môr. "

Mae ymchwil Dr Wilcockson yn cael ei ariannu gan y BBSRC (mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Caerlŷr a Labordy Bioleg Foleciwlaidd, Caergrawnt) a NERC.

Darlledir ‘The Secret Life of Rock Pools’ ar BBC4 am 9.00pm ar ddydd Mawrth 16 Ebrill 2013.


AU12913