Trafod poblogaeth sy’n heneiddio

Logo

Logo

17 Ebrill 2013

Gydag un mewn chwech o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd dros 65 mlwydd oed a rhagolygon y bydd un o bob pedwar erbyn 2050, mae hyn wedi ysgogi sgwrs i'w chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar yr hyn a ellir ei wneud i wella ansawdd bywyd pobl hŷn.

Bydd y digwyddiad ar y cyd, sydd yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil a Datblygu Pobl Hŷn a Henaint (OPAN Cymru) a'r Brifysgol, yn ceisio datblygu syniadau ymchwil sy'n berthnasol i bobl hŷn a materion yn ymwneud â heneiddio yng Nghymru ar ddydd Iau 25 Ebrill.

Bydd y fforwm undydd yn edrych i gyfuno ymchwilwyr, pobl hŷn a'u cynrychiolwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi i wella ansawdd bywyd pobl hŷn sy'n byw yng Nghymru.

Esboniodd Yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol yn Aberystwyth, "Mae heneiddio yn broses gymhleth a does yna’r un ddisgyblaeth yn ateb yr holl gwestiynau ar y pwnc. Felly, y nod yw dod â gwahanol ddisgyblaethau a sectorau at ei gilydd i adeiladu ar arbenigedd ymchwil, profiad a chryfderau er mwyn gwireddu'r cyfleoedd ar gyfer cyd-weithio yn well.

"Mae cymaint o waith angen ei wneud er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl hŷn, yn enwedig ar y rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

"Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn ymchwil o ansawdd uchel ac rydym eisiau pwysleisio effaith economaidd a chymdeithasol ymchwil, yn enwedig ar y boblogaeth sy'n heneiddio."

Mae cynnwys pobl hŷn yn y broses o lunio’r agenda ymchwil er mwyn defnyddwyr y gwasanaethau sydd eu hangen gan y boblogaeth hŷn yn ganolog i amcanion ymchwil OPAN a Phrifysgol Aberystwyth.

Mae OPAN yn ymroddedig i’r gwaith o wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru drwy integreiddio ymchwil, polisi ac ymarfer. Mae'n hwyluso prosiectau ymchwil ar y cyd er mwyn codi proffil ymchwil i mewn i henaint.

Ariennir OPAN Cymru gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (NISCHR).

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 25 Ebrill yn yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais o 10.30am tan 3.30pm.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y fforwm neu os hoffech fynychu, cysylltwch â Molly Banning ar M.Banning@swansea.ac.uk neu 01792 295687.

Ceir mwy o wybodaeth am OPAN yma: http://www.opanwales.org.uk/.

AU13013