Nofelwyr ifanc gorau

Sarah Hall Credit: Richard Thwaites

Sarah Hall Credit: Richard Thwaites

17 Ebrill 2013

Enwyd un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Sarah Hall, a raddiodd mewn Saesneg a Hanes Celf ym 1995, ymysg ugain nofelydd ifanc gorau Prydain ar restr unwaith-mewn-degawd y cylchgrawn Granta.

Mae Sarah Hall wedi ysgrifennu nifer o nofelau arobryn megis Haweswater (2003), The Electric Michelangelo (2004), a The Carhullan Army (2007), a restrwyd yn un o 100 Llyfr Gorau'r Degawd gan The Times. Cafodd ei nofel ddiweddaraf How to Paint a Dead Man (2009) ei chynnwys ar restr hir  Gwobr Man Booker. Yn 2011 cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion, o'r enw The Indifference Beautiful. Cyfieithwyr ei gwaith i fwy na dwsin o ieithoedd.

Wrth sôn am ei chyfnod yn y Brifysgol, dywedodd Sarah Hall: "Rwy'n credu bod yr Adran Saesneg wedi bod yn allweddol wrth yng ngosod ar y ffordd i fod yn awdur. Cymerais fy nghwrs ysgrifennu creadigol cyntaf yn Aberystwyth, ac mae wir cynnau tân yn fy mol, a rhoi imi’r hyder i gadw i fynd. Mae gen i atgofion melys iawn o'r lle, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r darlithwyr hynny a oedd mor angerddol a deinamig, ac a fu’n gyfrifol am feithrin ynof yr hyn sydd bellach yn fwynhad parhaol o lenyddiaeth ac ysgrifennu. "

Ers tri degawd yn olynol, mae'r rhestr Granta Best of Young British Novelists wedi bod yn hyrwyddo gwaith awduron dawnus yn y byd llenyddol Prydeinig.

AU14013