Effeithiau seicolegol cancr

Darn o waith gan John Edwards.

Darn o waith gan John Edwards.

22 Ebrill 2013

Bydd arddangosfa gelf sydd wedi ei ysbrydoli gan brofiadau cleifion cancr y pidyn yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth a Mercher (23-24 Ebrill).

Bydd Aberystwyth hefyd yn croesawu Dr Peter Branney, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Leeds, i siarad am yr ymchwil sy'n cael ei wneud i brofiadau dynion yn dilyn llawdriniaeth cancr y pidyn.

Cynhelir yr arddangosfa yng nghyntedd Penbryn 5, cartref yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fe fydd sgwrs Dr Branney yn cael ei chynnal am 10 o’r gloch fore ddydd Mawrth 23 Ebrill yn ystafell A6 yn Adeilad Llandinam.

Mae Dr Branney’n arwain grŵp ymchwil Profiadau Cleifion Cancr y Pidyn (PEPC), sy'n cynnwys Yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr yr Athrofa Gwyddorau Dynol yn Aberystwyth.

Mae'r grŵp hwn yn edrych i mewn i effeithiau seicolegol cancr y pidyn ar ddynion ac wedi cael ei ddefnyddio yn y gwaith o ddatblygu gwefan newydd o'r enw www.healthtalkonline.org <http://www.healthtalkonline.org>. Mae'r wefan arobryn hon yn cynnwys adran newydd ar gancr y pidyn, pwnc nad yw’n cael ei drafod yn aml. Bob blwyddyn ceir rhwng 400 a 600 o achosion newydd yn y Deyrnas Gyfunol.

Eglurodd yr Athro Kate Bullen, "Bydd yr arddangosfa yn caniatáu i'r cyhoedd archwilio gwaith celf ynghyd â dyfyniadau am brofiadau cleifion cancr y pidyn.

"Fel grŵp, rydym yn gwneud cynnydd da wrth ddeall yr hyn mae dynion yn mynd drwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae cancr yn brofiad heriol ar unrhyw adeg ond yn arbennig pan fydd y cancr yn anghyffredin, yn union yr achos gyda chancr y pidyn.

"Mae dynion sy'n dioddef o'r clefyd yn aml yn dweud y byddent yn hoffi clywed am brofiadau pobl eraill a bod hyn yn helpu i leihau teimladau o unigedd, fodd bynnag, mae hyn yn achosi problemau os mai dim ond ychydig o gleifion sydd â'r cyflwr.

"Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall dynion ei chael yn anodd siarad am eu teimladau ac mewn lleoliad gwledig megis Aberystwyth, mae dod o hyd i rywun er mwyn trafod yn gallu bod yn arbennig o anodd. Dyma le y bydd y wefan sgwrs iechyd yn help mawr, gan ei bod yn haws siarad dros y we a bydd yn eu galluogi i reoli’r sefyllfa’n well ac yn llai bregus ar adeg anodd yn eu bywydau.”

AU6213