Glaswellt yn atal y lli

Dr Mike Humphreys â’r glaswellt Festulolium

Dr Mike Humphreys â’r glaswellt Festulolium

29 Ebrill 2013

Gallai croesiad o ddwy rywogaeth glaswellt newydd a ddatblygwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth helpu i leihau effaith llifogydd.

Mae gwaith ymchwil diweddar gan gasgliad o wyddonwyr planhigion o bob cwr o'r Deyrnas Gyfunol, yn dangos bod gan y croesiad glaswellt newydd a ddatblygwyd gan fridwyr planhigion yn  Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth y potensial i atal llifogydd.

Gall yr hybrid croes ddal mwy o ddŵr yn y pridd nag sy’n bosibl gyda gweiriau amaethyddol eraill ar hyn o bryd. Mae hyn wedyn yn lleihau dŵr ffo felly byddai’n bosib lleihau llifogydd.

Astudiodd y gwyddonwyr, a ariennir gan y Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC)  ac sy’n hanu o IBERS, Rothamsted Research, Sefydliad James Hutton, Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Nottingham, amrywiaeth Festulolium, croesiad sy'n deillio o rygwellt parhaol (Lolium perenne) a pheiswellt y ddôl (Festuca pratensis).

Pwrpas yr ymchwil oedd dangos y byddai cyfuno cyfradd twf a sefydliad cyflym y rhygwellt â systemau gwreiddiau hir y peiswellt yn gwella strwythur y pridd ac y gallai hyn leihau llifogydd.

Mewn arbrofion maes dros gyfnod o ddwy flynedd yn Nyfnaint dangosodd y tîm ymchwil bod y croesiad Festulolium yn lleihau dŵr ffo o laswelltir amaethyddol hyd at 51 y cant o'i gymharu â’r mathau blaenllaw o rygwellt parhaol a argymhellir yn y DG  a 43 y cant o'i gymharu â pheiswellt y ddôl -  ei ddau riant-rhywogaeth.

Credir bod y dŵr ffo yn is oherwydd bod twf sydyn a dwys gwreiddiau’r Festulolium a’u trosiant, yn enwedig ar ddyfnder, yn cynhyrchu pridd mwy mandyllog sy'n caniatáu iddo ddal mwy o ddŵr.

Mae'r hybrid croes hefyd yn cynhyrchu porthiant o ansawdd uchel sy’n gallu gwrthsefyll eithafion tywydd, gan wneud y glaswellt hyd yn oed yn fwy defnyddiol i ffermwyr.

Esboniodd Dr Mike Humphreys prif ymchwilydd yn IBERS ac un o awduron y papur, “Mae Festulolium, a ddiffinnir fel croesiad naturiol rhwng rhywogaethau rhygwellt a pheiswellt, yn laswellt pwysig ar gyfer y dyfodol. Dyma’r ffordd ymlaen i amaethu da byw yn gynaliadwy.

"Mae ganddynt fwy o allu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd ac maen nhw’n fwy effeithlon wrth ddefnyddio dŵr a maetholion ynghyd â sawl enghraifft arall o wasanaeth amgylcheddol. Mae hyn yn bennaf oherwydd eu systemau gwreiddiau dwfn sy’n datblygu'n dda.

"Mae eu gwreiddiau yn brwydro yn erbyn llifogydd, yn lleihau erydu a chywasgu pridd ac yn cynnig cyfleoedd i ddal a storio carbon sylweddol."

Mae glaswelltir yn gorchuddio 76 y cant o dir amaethyddol y DG ac yn fwyaf cyffredin yn y gorllewin a'r gogledd - yr ardaloedd o lawiad uchaf a thalgylch llawer o'n hafonydd hefyd. Mae angen astudiaethau manylach a mwy o amser i benderfynu ar botensial llawn Festulolium ar gyfer rheoli llifogydd, ond mae'r arwyddion yn addawol iawn.

Os bydd y canlyniadau ar raddfa fwy yn adlewyrchu’r canlyniadau a gafwyd yn yr astudiaethau peilot yna bydd technoleg cost-effeithiol iawn ar gael ar gyfer rheoli llifogydd.

AU13613