Galw’r gofalwyr yng Ngheredigion

02 Mai 2013

Mae Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth yn galw ar ofalwyr yng Ngheredigion sy'n edrych ar ôl ffrind, perthynas neu gymydog i gymryd rhan mewn papur ymchwil sy'n anelu at dynnu sylw at y cymorth a'r cyngor sydd ar gael iddynt ac efallai gwneud y system yn haws.

Fe fydd Leah Brzeska-Laird, sy’n astudio Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) yn edrych yn benodol ar yr 'Asesiad Anghenion Gofalwyr' dros y misoedd nesaf ar gyfer ei hymchwil.

Mae'r asesiad yma, sydd yn rhad ac am ddim, ar gael i ofalwyr ac yn darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael iddynt nad yw ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial.

Eglurodd y fam i un o'r Drenewydd, "Yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yw nad yw pob gofalwr yn llenwi’r asesiad ac rydym yn awyddus i ddeall y rhesymau pam. Mae llawer o gefnogaeth ar gael megis seibiannau byr drwy ofal seibiant, cefnogaeth emosiynol a chofrestru ar gerdyn cynllun brys er enghraifft.

"Gallai fod nad yw pobl yn gweld eu hunain fel gofalwyr ac felly ddim yn ystyried yr asesiad i fod yn berthnasol iddynt, neu fod y broses yn anodd ei gwblhau. Beth bynnag fo'r rhesymau, rydym eisiau gwybod amdanynt er mwyn gwerthuso'r broses a gweld beth y gellid o bosibl ei wella."

Mae hwn yn broject ymchwil un-flwyddyn Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS) sydd wedi'i gysylltu â phartner cwmni, sef yn yr achos hwn yw Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion.

Dywedodd Heather West, Swyddog Datblygu Gofalwyr o Wasanaethau Cymdeithasol Geredigion, "Y peth gwych am y gwaith ymchwil hwn yw y bydd Leah yn gweithio yn annibynnol o’r Cyngor neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol, a bydd yn gallu cyflwyno barn ddiduedd ar y sefyllfa bresennol.

"Rydym yn awyddus i wella'r broses, oherwydd ein bod am i bob gofalwyr yn y sir i fod yn gallu cael cymorth a gwasanaethau sy'n briodol ar gyfer eu sefyllfa. Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Leah a'r Brifysgol dros y misoedd nesaf i ddod ac yn y dyfodol, oherwydd rwy'n siŵr y bydd syniadau ymchwil eraill yn dod o'r canfyddiadau."

I gymryd rhan yn yr ymchwil hon fydd angen cwblhau holiadur, a ddylid cymryd dim mwy na 10 munud, fydd yn hawdd yn gallu cael ei ddanfon drwy e-bost neu drwy'r post. Cysylltwch â Heather West yn y lle cyntaf ar heather.west@ceredigion.gov.ukneu 01970 633563.

Mae KESS wedi cael ei ran-ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy raglen Cydgyfeiriant Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cymru.

AU12113