Gŵyl Beicio Aberystwyth

Beicwyr yn rasio yn ystod digwyddiad 2012

Beicwyr yn rasio yn ystod digwyddiad 2012

24 Mai 2013

Bydd cyfres Taith Pearl Izumi Tour yn dychwelyd i Aberystwyth y penwythnos hwn, fel rhan o raglen lawn o feicio.

Bydd timau proffesiynol gorau yn y Deyrnas Gyfunol yn cyrraedd Aberystwyth ar ddydd Gwener 24Mai ar gyfer Gŵyl Beicio Aberystwyth, a gynhelir mewn partneriaeth â'r Brifysgol, gyda’r Hyrwyddwr Olympaidd Ed Clancy ac enillydd Taith Brenin y Mynyddoedd SKODA Prydain Kristian House, ill dau  yn gyn-enillwyr y digwyddiad.

Meddai’r Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

"Dyma'r drydedd flwyddyn y digwyddiad cyffrous hwn ac mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod yn bartner craidd. Mae iechyd, ymarfer corff a lles yn rhan annatod o'n strategaethau addysgu ac ymchwil, fel y  mae cyfrannu at fywiogrwydd yr economi leol a rhanbarthol. Nawr rydym yn ehangu hyn i’r Ŵyl, rydym yn edrych ymlaen at benwythnos lle bydd rhywbeth i bawb ".

Mae’r Gyfres elît Pearl Izumi yn digwydd nos Wener, yn dod ar ddiwedd diwrnod llawn o rasys a digwyddiadau cymunedol ar Bromenâd Aberystwyth. Annogir gwylwyr wedyn i aros ymlaen yn Aberystwyth a gwneud y gorau o benwythnos Gŵyl y Banc, gyda chyffro ras beicio mynydd  lawr llethr yn digwydd ar Graig Glais ar y dydd Sadwrn cyn sportive Gorllewin Gwyllt Cymru ar ddydd Sul yn cynnig dewis o dri llwybr drwy gefn gwlad lleol trawiadol Ceredigion.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl Beicio Aberystwyth ewch i www.abercyclefest.com