Penodi Ddirprwy Is-Ganghellor newydd

Dr Rhodri Llwyd Morgan

Dr Rhodri Llwyd Morgan

03 Mehefin 2013

Penodwyd Dr Rhodri Llwyd Morgan yn Ddirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd Dr Morgan, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Cefnogi Polisi gyda Chyngor Sir Ceredigion, yn dechrau ar ei swydd newydd ar ddechrau mis Medi.

Yn wreiddiol o odre Ceredigion, mae ganddo radd mewn Hanes a Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, ac MA mewn Astudiaethau Celtaidd Cynnar a Doethuriaeth mewn Hanesyddiaeth o Brifysgol Caerdydd.

Fel aelod o Grŵp Gweithredol y Brifysgol, bydd Dr Morgan yn gyfrifol am ddatblygu a chyfleu strategaeth y Brifysgol o safbwynt y Gymraeg a diwylliant Cymru, a hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg a chynghori ar sut y gellid ymgorffori’r Gymraeg a diwylliant Cymru ymhellach ym mywyd academaidd y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Pleser o’r mwyaf yw cael llongyfarch Dr Rhodri Llwyd Morgan ar ei benodiad. Mae ganddo brofiad academaidd a gweithredol helaeth ym maes cynllunio ieithyddol, a chefndir hynod berthnasol addysg a gwasanaethau cymunedol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gydweithio ag ef er mwyn adeiladu ar y datblygiadau pwysig sydd ar droed yma yn Aberystwyth.”

“Mae hwn yn gyfnod eithriadol gyffrous ym maes Addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac yn arbennig yma yn Aberystwyth. Ers 2011 dyfarnwyd 11 swydd darlithydd cyfrwng Cymraeg i ni o dan gynllun y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rydym yn rhagweld y bydd pedwar darlithydd ychwanegol yn ymuno â’r Brifysgol ym mis Medi ym meysydd y Gyfraith, Cyfrifiadureg, Astudiaethau Gwybodaeth a Chymraeg Proffesiynol.

“Mae gwaith arloesol yn cael ei wneud yma yn y gwyddorau - Mathemateg, Ffiseg, Cyfrifiadureg a’r Gwyddorau Biolegol - sy’n trawsnewid natur darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y meysydd yma, ac mae cynllun Adran y Gymraeg i ddarparu MA mewn Cymraeg Proffesiynol o fis Medi 2014 yn mynd i gynnig cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer y gweithle.”

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymuno â’r Brifysgol yn y rôl hon ac yn gwybod y gwnaf fy ngorau glas i hyrwyddo’i chenhadaeth.  Mae fy mhrofiad yn bennaf ym meysydd datblygu’r iaith Gymraeg, gwasanaethau diwylliant a dysgu gydol oes ar lefel awdurdod lleol ac yn genedlaethol.

“Gwn fod cyfleoedd i ddatblygu ymhellach ar ddwyieithrwydd yn fewnol, ehangu’r arlwy cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr ac i hybu’n delwedd fel sefydliad dwyieithog allblyg sy’n gwneud gwahaniaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

“Bydd y gwaith o hybu ymgysylltu allanol yn elfen bwysig iawn yn y swydd a thrwy hynny fe fyddwn yn ymestyn dylanwad ac enw da’r Brifysgol ar bob lefel.  Trwy roi hwb i ymgysylltu gwirioneddol hefyd fe all y Brifysgol elwa ar ddylanwadau allanol a phartneriaethau newydd ac mae cefnogi’r gwaith hwn o ddiddordeb mawr i mi yn ogystal.”

Daw Dr Morgan â chyfoeth o brofiadau sy’n pontio’r byd academaidd a gweithredol. Fel rhan o’i rôl flaenorol yng Nghyngor Sir Ceredigion, bu’n gyfrifol am reolaeth Gwasanaethau Llyfrgell, Archifau Ceredigion, Amgueddfa Ceredigion, addysg gymunedol, Cymraeg i Oedolion, Hyfforddiant Ceredigion, dysgu cymunedol a Strategaeth Iaith Ysgolion, Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion, Theatr Felin-fach a chefnogaeth i’r Celfyddydau, a CERED. 

Yn fwy diweddar, mae ei bortffolio wedi cynnwys Polisi a Strategaeth, Partneriaethau a gwaith ar y cyd, yr Iaith Gymraeg, cydraddoldeb, Cyfathrebu ac ymgysylltu â’r Cyngor.

Cyn hyn bu’n gweithio i Fwrdd yr Iaith, Prifysgol Caerdydd a BBC Cymru.

Mae Dr Morgan yn olynu’r Athro Aled Jones sydd wedi ei benodi i swydd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

AU19313