Cyngor i awduron y dyfodol

21 Mehefin 2013

Os ydych chi eisiau gwybod y gyfrinach tu ôl i nofel neu ddrama dda, beth am ymuno mewn gweithdy ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory,  dydd Sadwrn 22 Mehefin.

Mae creu cymeriadau da yn hanfodol wrth ysgrifennu ffuglen neu ddrama, a bydd y sesiwn awr yma yn anelu at gwestiynu eich cymeriadau a rhoi dulliau pendant ar sut i greu cymeriadau credadwy yn y dyfodol.

Esboniodd Liz Jones, cydlynydd y cwrs yma a Chydlynydd y Dyniaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Mae'r sesiwn yn hwyl, bywiog ac anffurfiol, ac wedi’i chynllunio er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i unigolion am sut i ysgrifennu cymeriadau grymus, sy'n hollol hanfodol i unrhyw nofel neu ddrama.

"Mae dod i adnabod eich cymeriadau a'r byd maent yn byw ynddo yn ychwanegu dyfnder ac argyhoeddiad i unrhyw stori. O blot drama gyffrous i ddrama deuluol sy’n mud losgi, mae cymeriadau yn ganolog."

Sesiwn cyfrwng Saesneg yw, Creating authentic characters in fiction and drama, a bydd yn cael ei chynnal rhwng 12-1yp yn Medrus 3 ar Gampws Penglais ddydd Sadwrn 22 Mehefin.

Cydlynydd Dyniaethau Dysgu Gydol Oes yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Aberystwyth yw Liz Jones, ac mae hi hefyd yn gymrawd addysgu yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu. Gyda chefndir mewn newyddiaduraeth, ysgrifennu copi a gwaith cymunedol, mae Liz wedi bod yn dysgu ysgrifennu creadigol ers 1998.

Yn ddiweddar, cwblhaodd ei thesis PhD ar addasiadau llwyfan i sgrin. Ar ôl pum mlynedd o astudio rhan-amser, mae Liz nawr yn edrych ymlaen at barhau gyda'i ysgrifennu, a dramâu yn arbennig. Ceir manylion am ysgrifennu Liz ar y wefan http://www.aber.ac.uk/en/sell/staff-profiles/lit/

Mae Mynediad Am Ddim yn cael ei gynnal o 10yb-3yp ar Ddydd Sadwrn 22 Mehefin ac mae amserlen lawn o ddigwyddiadau ar gael yma www.aber.ac.uk/access-all-areas.