Lansio Siarter Myfyrwyr newydd

Lansio Siarter Myfyrwyr newydd Aberystwyth: (chwith i’r dde) Grace Burton, Swyddog Addysg newydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (UMA); Sam Reynolds Cydlynydd Cynrychiolaeth a Phrofiad Myfyrwyr UMA; Yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth; Jamie Barker, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu UMA; a Jess Leigh, syn agosáu at ddiwedd ei chyfnod fel Swyddog Addysg UMA.

Lansio Siarter Myfyrwyr newydd Aberystwyth: (chwith i’r dde) Grace Burton, Swyddog Addysg newydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (UMA); Sam Reynolds Cydlynydd Cynrychiolaeth a Phrofiad Myfyrwyr UMA; Yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth; Jamie Barker, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu UMA; a Jess Leigh, syn agosáu at ddiwedd ei chyfnod fel Swyddog Addysg UMA.

26 Mehefin 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi Siarter Myfyrwyr newydd ar y cyd.

Mae'r Siarter newydd yn cyflwyno amlinelliad clir, un dudalen o rolau a chyfrifoldebau'r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr unigol.

Mae datblygiad y Siarter newydd wedi cael ei annog a'i gefnogi gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), sydd wedi cymell pob Sefydliad Addysg Uwch i gytuno ar siarter gyda’u hundebau myfyrwyr.

Bu Jess Leigh, Swyddog Addysg a Sam Reynolds, Cynrychiolwyr y Myfyrwyr a Chyd-drefnydd Undeb y Myfyrwyr, yn gweithio ar y cyd â'r Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol, a chafwyd cytundeb Gweithrediaeth y Brifysgol ar y meysydd o gyfrifoldeb a’r hyn a ddisgwylir gan bawb.

Nod y Siarter yw hysbysu myfyrwyr am yr hyn y gallant ddisgwyl a beth a ddisgwylir ganddynt hwy.

Dywedodd Jess Leigh: "I mi fel Swyddog Addysg y flaenoriaeth oedd llunio Siarter Myfyrwyr oedd yn fwy hygyrch a hawdd i'w defnyddio. Mae rhannu’r Siarter yn dair a’i gwneud yn fwy gweledol yn yr adrannau ac mewn llefydd allweddol ar draws ein campysau wedi hwyluso perchnogaeth glir a chyfathrebu  disgwyliadau a chyfrifoldebau pawb yn effeithiol.”

Mae pwyntiau megis derbyn adborth adeiladol a rhoi i fyfyrwyr y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn cael eu hadlewyrchu yn yr hyn sydd i’w ddisgwyl oddi wrth y Brifysgol, tra bod myfyrwyr yn medru disgwyl cynrychiolaeth egnïol ym mhob rhan o’r sefydliad, a datblygiad personol drwy chwaraeon, cymdeithasau a gweithgareddau gan Undeb y Myfyrwyr.

Ar y llaw arall, mae disgwyl i fyfyrwyr fod yn gyfrifol am bwyntiau megis cymryd cyfrifoldeb am ddysgu unigol a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Wrth groesawu'r Siarter, dywedodd yr Athro John Grattan: "Mae Siarter y Myfyrwyr yn ddatganiad cyhoeddus o'r hyn y gall myfyrwyr ei ddisgwyl gan y Brifysgol, a’r hyn y gall y Brifysgol ei ddisgwyl gan ei myfyrwyr.  Mae diffinio'n glir y safonau a ddisgwylir gan ein gilydd yn hanfodol o ran sicrhau gwasanaethau priodol ac yn sicrhau datblygiad y profiad myfyriwr gwych sydd i’w gael yma yn Aberystwyth.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi medru cydweithio ar ddatblygu'r Siarter ac rwyf yn ddiolchgar i Undeb y Myfyrwyr am y mewnbwn gwerthfawr o ran disgwyliadau’r myfyrwyr o’r Brifysgol."

Ar ôl ei chyhoeddi, bydd y Siarter yn cael ei hadolygu’n flynyddol gan fyfyrwyr, swyddogion Undeb y Myfyrwyr a staff y brifysgol er mwyn sicrhau bod yr holl gynnwys yn parhau'n berthnasol ac yn gyfredol.

AU20413