Bywyd newydd i’r Hen Goleg

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

01 Gorffennaf 2013

Mae cynlluniau i ail-ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth gam yn nes wedi i Gyngor y Brifysgol gymeradwyo astudiaeth ddichonoldeb ar ddydd Llun 24 Mehefin.

Mae’r astudiaeth gan y penseiri Austin-Smith: Lord, a fu’n cydweithio gyda Hosta Ltd ar y cynlluniau, yn cynnwys syniadau cyffrous ar gyfer oriel gelf / amgueddfa, stiwdios artistiaid, canolfan astudio ôl-raddedig, gofod perfformio a chymunedol, llety preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac academyddion sy'n ymweld, caffi / bwyty a gofod masnachol ar gyfer busnesau bach.

Mae awgrymiadau hefyd wedi eu gwneud ar gyfer adeiladau eraill sy'n eiddo i'r Brifysgol yng nghyffiniau’r Hen Goleg - 1 a 2 Rhodfa’r Môr (cartref Canolfan Feddygol y Brifysgol am flynyddoedd lawer), Y Bwthyn (Heol y Brenin), a 1,9 a 10 Maes Lowri. Mae'r olaf yn cynnwys Neuadd Joseph Parry.

Disgwylir y bydd y prosiect yn costio rhwng £15m ac £20m.

Wrth baratoi'r astudiaeth, bu'r awduron yn ymgynghori'n helaeth gyda chynrychiolwyr o fusnesau lleol a'r gymuned gelfyddydol, Cyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion a Cadw.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae’r Hen Goleg yw un o’r adeiladau mwyaf eiconig arfordir Cymru ac mae’r astudiaeth hon yn cynnig syniadau cyffrous iawn er mwyn adfywio adeilad sydd wedi bod mor ganolog i ddatblygiad tref Aberystwyth. Mae ganddo le arbennig yng nghalonnau llawer o’n alumni a’n myfyrwyr, yn ogystal â thrigolion ac ymwelwyr i Aberystwyth.

"Dyma'r cam cyntaf tuag at wireddu ein gweledigaeth ar gyfer datblygu'r Hen Goleg a rhai o'r adeiladau o'i gwmpas yn ardal ddiwylliannol a fydd yn darparu cyfleusterau rhagorol ar gyfer y gymuned leol a hefyd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig. Mae'n gyfnod cynnar iawn ar y prosiect hwn ond mae’r astudiaeth ddichonoldeb a’r ystod eang o awgrymiadau ar gyfer defnydd gwahanol o’r adeilad wedi creu cryn argraff arnom.”

Cyllidwyd yr astudiaeth ddichonoldeb gan Brifysgol Aberystwyth a Chronfa Adfywio Aberystwyth Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei chyflwyno i Fwrdd Adfywio Aberystwyth ym mis Gorffennaf.

Bydd y Brifysgol yn awr yn sefydlu Grŵp Prosiect yr Hen Goleg a fydd yn gyfrifol am symud y prosiect yn ei flaen at y cam nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ystyried ffynonellau posibl o ariannu a mynd i'r afael â materion cynllunio.

Astudiaeth dichonoldeb
Cafodd yr astudiaeth ei pharatoi gan:

  • Austin-Smith: Lord - Prif Ymgynghorydd, Pensaernïaeth, Cadwraeth a Chynllunio Gofod
  • Hostal Limited – Modelu Ariannol a Chynllun Busnes
  • GVA – Cyngor ar y Farchnad Eiddo, Arolygwyr Cyflwr ac Ymgynghorwyr Cost
  • Mann Williams - Peirianwyr Sifil, Strwythurol a Chadwriaethol Ymgynghorol
  • Arup - Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladau Ymgynghorol.

Yr Hen Goleg
Mae’r Hen Goleg yn adeilad cofrestredig Gradd 1 ac mae'n sefyll ar safle Castle House a adeiladwyd gan John Nash tua 1795. Yn 1864 prynwyd y safle gan y datblygwr rheilffyrdd  Thomas Savin, gyda'r bwriad o greu gwesty o fawredd digynsail, y Castle Hotel.

Comisiynwyd JP Seddon yn bensaer ar y cynllun a George Jones o Aberystwyth i oruchwylio'r gwaith adeiladu. Agorodd ym mis Mehefin 1865 ond yn fuan iawn aeth i drafferthion ariannol a chafodd ei osod ar y farchnad i’w werthu.

Er i’r adeilad gostio £80,000, ym mis Mawrth 1867 cafodd ei werthu am £10,000 i bwyllgor er mwyn ffurfio Prifysgol Cymru. Dychwelodd Seddon ac fe'i comisiynwyd i addasu'r gwesty yn goleg, ac agorodd y coleg hwnnw ei ddrysau am y tro cyntaf ym mis Hydref 1872.

Yng Ngorffennaf 1885 difrodwyd yr adeilad yn ddifrifol gan dân. Cafodd y gwaith atgyweirio ei wneud gan Seddon a Coates Carter, a’r adeiladwyr oedd Meistri S Belham and Co o Lundain.

Ym 1893 adeiladwyd to dros y Cwad, ac ym 1896 dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r asgell wyddoniaeth ac ailadeiladu Castle House gan C A Ferguson o Lundain.

Parhaodd yr Hen Goleg yn ganolbwynt gweithgaredd y Brifysgol tan y 1960au pan ddechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu campws Penglais.

AU7213