Elusen fyny fry

Ambiwlans Awyr Cymru

Ambiwlans Awyr Cymru

04 Gorffennaf 2013

Ambiwlans Awyr Cymru yw Elusen y Flwyddyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2013/14.

Bellach yn ei hail flwyddyn, nod Elusen y Flwyddyn yr Is-Ganghellor yw codi arian hanfodol ar gyfer achos teilwng. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen i Gymru gyfan ac mae’n darparu gwasanaeth awyr brys i'r rhai sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd.

Ers lansio’r gwasanaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001 mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cynnal dros 17,000 cyrch ac mae'n dibynnu'n llwyr ar gefnogaeth y cyhoedd am ei chyllid.

Mae angen i’r elusen godi £6 miliwn bob blwyddyn i gynnal y gwasanaeth ac mae pob cyrch yn costio £1,500 ar gyfartaledd.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor y Brifysgol; "Mae hwn yn achos teilwng iawn, ac rydym yn falch iawn o fedru cyhoeddi y byddwn yn cefnogi'r elusen yma ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Eleni, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer elusen y flwyddyn gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol. Enwebwyd 77 o elusennau ar gyfer eu cynnwys ar y rhestr wreiddiol a dewiswyd pump ohonynt ar gyfer eu cynnwys ar y rhestr fer gan swyddogion sabothol Undeb y Myfyrwyr a Thîm Gweithredol y Brifysgol. Wedi mis o bleidleisio pan fwriwyd mwy na 1,300 o bleidleisiau, Ambiwlans Awyr Cymru oedd yr elusen gafodd ei dewis ar gyfer 2013/4.

"Mae Elusen y Flwyddyn yn darparu ffocws defnyddiol ar gyfer ein gweithgareddau codi arian. O duniau casglu arian mewn mannau talu ar draws y Brifysgol i redeg marathon, mae ein cymuned o fyfyrwyr a staff yn wych am godi arian ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod y flwyddyn i ddod, gan ddechrau gyda stondin trwy gydol ein Hwythnos Raddio rhwng 9-12 Gorffennaf."

Nod Ambiwlans Awyr Cymru yw cyrraedd, trin a chludo cleifion yn y modd mwyaf cyflym posib i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion. Mae peilot yn gallu cael hofrennydd i’r awyr o fewn 3 munud i dderbyn galwad brys a gall yr hofrennydd deithio ar 150mya, dros 2 filltir y funud, a chyrraedd unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru; "Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein hethol gan fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth fel elusen y flwyddyn. Oherwydd cefnogaeth a haelioni pobl eraill rydym yn gallu parhau i achub bywydau."

I gael rhagor o wybodaeth am Ambiwlans Awyr Cymru, ewch i http://leap.walesairambulance.com/cy/hafan

AU22113