Secondiad Canolfan y Celfyddydau

Louise Amery, sydd wedi ei secondio i swydd Cyfarwyddwr Ganolfan y Celfyddydau yn dilyn ymddeoliad y cyn gyfarwyddwr Alan Hewson.

Louise Amery, sydd wedi ei secondio i swydd Cyfarwyddwr Ganolfan y Celfyddydau yn dilyn ymddeoliad y cyn gyfarwyddwr Alan Hewson.

05 Gorffennaf 2013

Mae Louise Amery wedi ei secondio i swydd Cyfarwyddwr Ganolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth, yn dilyn ymddeoliad y cyn gyfarwyddwr Alan Hewson.

Ymunodd Louise Amery â’r Ganolfan yn 1993 fel Rheolwr Marchnata ac ers 2001 bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr ar y Ganolfan.

Yn ogystal â’i gwaith yng Nghanolfan y Celfyddydau, mae Louise yn cynrychioli mudiadau celfyddydol ar grŵp Dyfodol Cynaliadwy Ceredigion ac mae’n aelod o Gylchdaith Adloniant Canolbarth Cymru. Tan 2012 roedd yn un o Gyfarwyddwr Menter Aberystwyth ac am flynyddoedd lawer bu’n Gyfarwyddwr ac yna’n Gadeirydd Gwyliau Cymru.

Yn dilyn ei phenodiad, dywedodd Louise: “Mae Canolfan y Celfyddydau yn dathlu ei 40fed pen-blwydd eleni, ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi sefydlu ei hunan fel prif lwyfan y celfyddydau yng Nghymru ac un o’r mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y Deyrnas Gyfunol. Yn ddiweddar lansiwyd Cynllun Strategol tair blynedd y Ganolfan sydd yn gosod ein gweledigaeth amdani, un sydd wedi’i seilio ar ein credo yng ngrym y Celfyddydau i drawsnewid cymdeithas a newid a chyfoethogi bywydau.

“Mae’n destun balchder i mi ym mod wedi bod yn rhan o dîm Canolfan y Celfyddydau am yr ugain mlynedd a aeth heibio ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’m cydweithwyr ac adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes. Mi fydd ein blaenoriaeth yn parhau'r un, sef darparu rhaglen wych o weithgareddau celfyddydol ar gyfer mwynhad y gymuned gyfan.”

Wedi iddi raddio mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor dechreuodd Louise ar ei gyrfa ym myd y Celfyddydau gyda Cherddorfa Symffoni Bournemouth a Sinffonieta Bournemouth, lle bu’n gweithio fel Llyfrgellydd Cynorthwyol a Swyddog Hyrwyddo Cyngherddau.

Mae Louise hefyd yn gerddor dawnus. Mae’n perfformio’n gyson gyda Philomusica Aberystwyth ac yn cyfeilio i grwpiau drama a cherddorol lleol, gan gynnwys The Wardens sy’n llwyfannu’r pantomeim blynyddol, a Chôr ABC.

Mae Louise yn dechrau yn ei swydd newydd yn syth. Mae’r broses i benodi Cyfarwyddwr newydd i olynu Alan Hewson eisoes ar droed a bydd y swydd yn cael ei hysbysebu’n eang.

AU24113