Cynhadledd Cymraeg i Oedolion

Campws Penglais

Campws Penglais

05 Gorffennaf 2013

Yfory, ddydd Sadwrn Gorffennaf 6, cynhelir Cynhadledd Genedlaethol Cymraeg i Oedolion i Diwtoriaid yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ar gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Dyma’r tro cyntaf i’r Gynhadledd gael ei chynnal yn Aberystwyth, a bydd yn gyfle i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Cymru rannu’r datblygiadau diweddaraf, ynghyd â chael eu hannerch gan siaradwyr blaengar yn y maes.

Prif thema'r Gynhadledd Cymraeg i Oedolion fydd Asesu ar gyfer Dysgu, a phrif siaradwr y digwyddiad fydd Geoff Petty, sy’n arbenigwr yn y maes.

Geoff Petty yw awdur y llyfr addysgol poblogaidd ‘Teaching Today: a practical guide’, mae hefyd wedi cynnal tua 500 o sesiynau hyfforddi mewn colegau yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf. 

Yn ogystal bydd rhaglen ddiddorol a chynhwysfawr o sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer tiwtoriaid fydd yn cynnwys asesu ar gyfer dysgu, gwarchod y llais, defnydd creadigol o dechnoleg a sesiwn yn trafod dull o gyflwyno iaith drwy ‘wneud a dweud’ gydag Emyr Llywelyn, athro Cymraeg nodedig ac arbenigwr ar gyflwyno’r Gymraeg i bobl ifanc.

Meddai Lowri Angharad Jones, cydlynydd y Gynhadledd a swyddog ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, “Mae’r Gynhadledd yn gyfle gwych i diwtoriaid led - led  Cymru ddod ynghyd i wrando ar gyfres o sesiynau fydd yn trafod y datblygiadau  diweddaraf i Gymraeg i Oedolion.”

Bydd y Gynhadledd yn dechrau am 9.15 ac yn gorffen am 4.45 ddydd Sadwrn, Gorffennaf 6.

AU25613