Urddo Betsan Powys

Betsan Powys yn cael ei derbyn yn Gymnrawd gan Is-Lywydd y Brifysgol, Mrs Elizabeth France CBE

Betsan Powys yn cael ei derbyn yn Gymnrawd gan Is-Lywydd y Brifysgol, Mrs Elizabeth France CBE

10 Gorffennaf 2013

Mae’r newyddiadurwraig a Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys, wedi ei cyhyflwyno’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Mercher 10 Gorffennaf.

Cafodd Betsan, a raddiodd mewn Almaeneg a Drama o Aberystwyth ei chyflwyno gan Alwena Hughes Moakes, Swyddog Polisi a Gweithredol y Brifysgol.

Ymunodd Betsan â’r BBC yn 1989 fel Hyfforddai Newyddion ac ers hynny mae wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus fel cyflwynydd dwyieithog ar y teledu a’r radio, ac fel blogiwr gwleidyddol.

Mae’n wyneb cyfarwydd ar y BBC ac S4C, ac mae wedi cyflwyno nifer o raglenni newyddion gwleidyddol gan gynnwys Panorama, Week In Week Out a’r Byd ar Bedwar.

Cyflwyniad Betsan Powys gan Alwena Hughes Moakes

Is-Lywydd, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.

Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Betsan Powys yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Mae Betsan yn barod yn un o deulu Prifysgol Aberystwyth, yn gyn-fyfrwraig a raddiodd mewn Almaeneg a Drama o’r Brifysgol ym 1987.

Wedi ei magu ym Mangor a Chaerdydd, dewisodd Betsan astudio yn Aber gan iddi gael ei hysbrydoli a’i chefnogi gan Len Jones, un o'i harwyr personol. Roedd hyn, ynghyd ag enw da'r Brifysgol mewn Almaeneg, ac  Adran Ddrama flaengar oedd, ac sydd o hyd yn dal i ddenu myfyrwyr o bell ac agos, yn golygu bod Aber yn ddewis hawdd i Betsan.

Yn ogystal a hynny, cafodd ei brawd amser ardderchog yma gan siarad yn frwdfrydig am y darlithoedd a’r dysgu a gafwyd gan academyddion blaenllaw gan gynnwys Emily Davies, Elan Closs a Hazel Walford Davies - roedd Betsan yn siwr y byddai’n hapus yma. Ac felly roedd hi. Mwynheuodd ei hamser yma yn Aber gan gymryd rhan weithredol gydag UMCA, fel aelod o'r pwyllgor. Oes yna unrhyw un ohonnom ni’r Cymry all osgoi bod ar bwyllgor? Fel rhan o'i rôl, bu’n ysgrifennu am y cyrsiau yr oedd pob adran yn eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg – dechrau cynnar i’w gyrfa fel newyddiadurwr ymchwiliol. Rwy'n falch, fel cyn-fyfyrwraig fy hun a rhywun a oedd hefyd yn ymwneud â UMCA, i ddweud wrthych, Betsan, ein bod yn cynnig llawer mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yma heddiw.

Yn ystod ei hail flwyddyn yn Aber, roedd hi’n un o'r aelodau a sefydlodd y Côr Ieuenctid Rhyngwladol dros Heddwch, a heddiw mae'n parhau i chwarae rhan weithredol gyda Chôrdydd, y cor arobryn hwnnw yng Nghaerdydd.

Ar ôl cwblhau ei gradd yn Aber, aeth Betsan ymlaen i gwblhau MLitt yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ar fywyd a gwaith yr awdur o Awstria, Jura Soyfer. Yna, yn 1989 ymunodd â'r BBC fel Hyfforddai Newyddion gan ddechrau ar ei gyrfa fel newyddiadurwraig a darlledwraig ddwyieithog, deugyfrwng. Ers ymuno â'r BBC, mae Betsan wedi gweithio fel gohebydd o 20 o wledydd gan gwmpasu ystod eang o faterion.

Ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain fel gohebydd ar gyfer Panorama, dychwelodd Betsan i Gymru yn 2005, er mwyn magu ei phlant, Manon a Madog, trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd i ddigwyddiadau gwleidyddol mawr, bu Betsan yn ohebydd y celfyddydau a chyfryngau i BBC Cymru, yn cyflwyno  Mastermind Cymru ar S4C, a hefyd yn gweithio fel newyddiadurwr ymchwiliol ar gyfer y Byd ar Bedwar a Week in Week Out.

O 2006 hyd at ddiwedd mis Mehefin eleni, Betsan oedd  Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru gan arwain tîm gwleidyddol y BBC yng Nghymru. Bu’n gyfrifol am ohebu ar rai o'r digwyddiadau gwleidyddol mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru - gan gynnwys datganoli a’r refferendwm, lle bu’n darlledu rhaglen o’n Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yma yn Aber.

Fel rhan o'i rôl, bu’n gohebu ar nifer o etholiadau, ac mae cyfaill i'r ddwy ohonom  yn cofio un achlysur pan roedd Betsan yn ymarfer ar gyfer darlledu ar yr etholiad yn 2005 gydag un o'i phlant yn yn ei harffed – yn llwyddo i gyfuno ei gwaith gyda bod yn fam. Nid mam gyffredin mohoni ond Siwper Mam!

Wrth gwrs, nid yw bod yn ohebydd gwleidyddol yng Nghymru mor hudolus ag y mae'n swnio bob amser. Yn 2007, pan gytunodd Llafur a Phlaid Cymru i sefydlu clymblaid a ffurfio Llywodraeth i Gymru, roedd Betsan yno i adrodd o'r digwyddiad. Ym Mhontrhydfendigaid y digwyddodd hyn a threuliodd Betsan lawer o'i hamser yn cerdded drwy'r pentref i chwilio am dir uchel, ac yn bwysicach, signal ffôn symudol. O’r diwedd, daeth o hyd i fan ar ben twmpath glas gydag awgrym o signal, a llwyddo i gysylltu gyda’r News Channel yn Llundain. Ond roedd y newyddiadurwr ar ben arall y ffôn yn cael anhawster deall hi ... "Dych chi yn Pont .. Pontryd ... Pont .. beth? Pont rhywbeth, yn sefyll ar fryn glas, heb fawr ddim signal ffôn symudol a heb ddim band eang ac  rydych yn dweud wrthyf eu bod nhw’n ffurfio Llywodraeth yng Nghymru ... ydych chi'n hollol siŵr am hynny?”

Yn ogystal â gweithio ar gyfer teledu a radio, mae Betsan wedi bod yn flogiwr gwleidyddol brwd a gan ddenu nifer sylweddol o ddilynwyr ledled y byd. Mae'n newyddiadurwraig  wleidyddol hoffus, hynod wybodus ac uchel ei pharch ymysg gwleidyddion, ei chydweithwyr yn y BBC, a’r gwylwyr a’r gwrandawyr yn y cartrefi 

Fodd bynnag, mae Betsan bellach wedi symud ymlaen i borfeydd newydd. Ers y cyntaf o Gorffennaf, mae hi wedi dechrau ar rôl newydd o fewn y BBC fel Golygydd Rhaglenni Radio Cymru. Rwy’n gwbl argyhoeddiedg y bydd yn cyflawni’r rol honno hefyd yn llwyddiannus. Pob lwc iti Betsan yn dy swydd newydd.

Is-Lywydd, mae’n bleser gen i gyflwyno Betsan Powys i chi yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth. 

AU24513