Gwir raddfa cynhesu’r moroedd

Dr Pippa Moore o IBERS, un o awduron mwyaf blaenllaw’r astudiaeth

Dr Pippa Moore o IBERS, un o awduron mwyaf blaenllaw’r astudiaeth

05 Awst 2013

Mae’r cynnydd yn nhymheredd y moroedd yn peri i rywogaethau morol newid eu hamseroedd bridio a’u trigfannau, a disgwylir i hyn effeithio’n sylweddol ar y dirwedd forol ehangach yn ôl astudiaeth fyd-eang newydd.

Mae’r prosiect ymchwil tair blynedd, a ariennir gan y National Centre for Ecological Analysis and Synthesis, California, wedi dangos symudiadau systemig helaeth mewn mesuriadau megis dosbarthiad rhywogaethau a ffenoleg – sef amseriad calendr byd natur – ar raddfa gyffelyb neu’n fwy na’r rhai a welir ar y tir.

Bydd yr adroddiad, ‘Global imprint of climate change on marine life’, yn rhan o Adroddiad Asesu y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd sydd i’w gyhoeddi yn 2014, ac a gyhoeddir yn rhifyn y mis hwn oNature Climate Change. Cyflawnwyd yr ymchwil gan wyddonwyr nodedig mewn 17 o sefydliadau ledled y byd, gan gynnwys Prifysgol Queensland, Prifysgol Plymouth, Prifysgol Aberystwyth, a Chymdeithas Gwyddor Môr yr Alban (SAMS).

Dywedodd un o brif awduron yr adroddiad, yr Athro Camille Parmesan, Cadair Acwariwm Morol Cenedlaethol ym maes Dealltwriaeth y Cyhoedd o Foroedd ac Iechyd Dynol yn Sefydliad Morol Prifysgol Plymouth, bod yr astudiaeth yn cynnig “neges hynod syml, ond pwysig”.

Meddai’r Athro Parmesan: “Dyma’r cofnod cynhwysfawr cyntaf o'r hyn sy’n digwydd yn ein systemau morol o safbwynt newid hinsawdd. Yr hyn mae’n ei ddangos yw bod y newidiadau sy’n digwydd ar y tir yn cael eu hadlewyrchu yn y moroedd. Ac yn hytrach na bod y moroedd yn fath ar ragod sy’n dangos mân newidiadau, yr hyn rydym yn ei weld yw ymateb cryfach o lawer ganddynt.”

Lluniodd y tîm ymchwil gronfa ddata fawr o 1,735 o newidiadau mewn bywyd morol o’r llenyddiaeth fyd-eang wedi’i adolygu gan gymheiriaid, a fu’n gymorth iddynt ymchwilio i effeithiau newid hinsawdd. Gwelodd y tîm bod 81% o’r newidiadau yn mynd i gyfeiriad sy’n gyson â newid hinsawdd.

Dangosodd y dystiolaeth bod ‘rheng flaen’ rhai rhywogaethau morol, megis ffytoplancton a söoplancton, a physgod esgyrnog, yn symud tuag at y pegynau ar raddfa o 72 cilomedr bob degawd ar gyfartaledd, sydd tipyn cyflymach na’r cyfartaledd ar y tir, sef 6 cilomedr bob degawd – a hyn er gwaetha’r ffaith bod tymereddau arwyneb y moroedd yn cynhesu deirgwaith yn arafach na thymereddau’r tir.

Canfuwyd hefyd bod ffenoleg y gwanwyn yn y moroedd wedi symud ymlaen mwy na phedwar diwrnod, bron ddwywaith cymaint â’r ffigwr ar gyfer y cynnydd ffenolegol ar y tir. Roedd cryfder yr ymatebion yn amrywio ymhlith y rhywogaethau, ond eto, dangosodd yr ymchwil bod yr ymateb mwyaf mewn söoplancton di-asgwrn-cefn a physgod esgyrnog larfaol – cynnydd o hyd at 11 diwrnod.

Dywedodd yr Athro Mike Burrows o SAMS: “Roedd y rhan fwyaf o’r effeithiau a welsom yn deillio o newidiadau yn yr hinsawdd, yn unol â’n disgwyliadau. Felly, roedd y rhan fwyaf o symudiadau o ran dosbarthiad, dyweder, pysgod a chwrelau, tuag at y pegynau, ac roedd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau’r gwanwyn, megis silio, yn gynharach.”

Roedd peth o’r dystiolaeth mwyaf pendant mai newid hinsawdd yw’r prif ffactor sy’n gyrru’r newidiadau dan sylw i’w gael yn yr olion traed a oedd yn dangos, er enghraifft, ymatebion gwrthwynebol mewn rhywogaethau dŵr-cynnes a rhywogaethau dŵr-oer o fewn cymuned; ac ymatebion cyffelyb o boblogaethau arwahanol ar ymyl yr un cynefin.

Dywedodd Dr Pippa Moore o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth “Mae ein hymchwil wedi dangos bod ystod eang o organebau morol, sy’n byw rhwng y môr rhynglanwol a’r dyfnfor ac sydd i’w canfod o’r pegynau i’r trofannau, wedi ymateb i newid hinsawdd diweddar drwy newid eu dosbarthiad, eu ffenoleg neu eu demograffeg.” Ychwanegodd Dr Moore “Mae’r canlyniadau hyn yn pwysleisio bod angen dybryd i lywodraethau ledled y byd ddatblygu cynlluniau rheoli addasol i sicrhau cynaliadwyedd moroedd y byd a’r nwyddau a’r gwasanaethau maent yn eu darparu i’r ddynoliaeth.”

Mae Dr Pippa Moore yn ddarlithydd mewn Ecoleg Forol yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n ecolegydd cymunedol ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn yr effeithiau y mae pobl yn eu cael ar ecosystemau morol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar dair prif thema: 1) effeithiau straenachoswyr hinsawdd a rhai nad ydynt yn gysylltiedig â’r hinsawdd ar y cysylltiadau rhwng rhywogaethau a sut mae hyn yn effeithio ar gymunedau morol a’r nwyddau a’r gwasanaethau maent yn eu darparu i’r ddynoliaeth; 2) gwneud lle i natur mewn peirianneg arfordirol a; 3) rheoli pysgodfeydd ar sail ecosystem ar gyfer y cimwch byrdew gorllewinol (Panulirus cygnus).

AU29813