Gwaed ar y Glo

Dr Steven Thompson

Dr Steven Thompson

08 Awst 2013

Heddiw, dydd Iau,9fed o Awst, bydd yr hanesydd, Dr Steven Thompson o Brifysgol Aberystwyth yn trafod y peryglon a wynebai glowyr yng Nghymru yn eu gwaith beunyddiol.

Yn seiliedig ar brosiect ymchwil a ariannir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, bydd Dr Thompson yn ystyried natur gwaith dan ddaear, y damweiniau a ddigwyddodd, a’r anafiadau ac anableddau a oedd yn sgil-effaith i’r amodau gwaith peryglus, trwy ystyried gwahanol ffynonellau gwreiddiol gan gynnwys baledi, barddoniaeth, papurau newydd a delweddau.

Yn ôl Dr Steven Thompson: “Roedd de Cymru yn cael ei ystyried fel un o’r meysydd glo mwyaf peryglus ym Mhrydain o ganlyniad i’r nifer uwch o ddamweiniau, y peryglon amrywiol o du clefydau galwedigaethol, yn enwedig afiechydon yr ysgyfaint, a’r cyfraddau anabledd uwch”, dywedodd.

“Rwy’n siwr fod pawb ohonom a gafodd ein magu yn y cymunedau glofaol yn cofio’r dynion niferus hynny heb goes neu’r rheiny a oedd yn dioddef o ddiffyg anadl. Roedd anabledd o’n cwmpas yn gyson ond roedd eto bron yn anweledig gan ei fod yn rhywbeth mor gyffredin. Byddwn yn rhoi sylw i’r pris a dalwyd gan ddyn yn y diwydiant glo gan roi pwyslais ar brofiadau ac agweddau yr unigolion a weithiodd yn y diwydiant.”

Gwaed ar y Glo: Damweiniau, anafiadau ac anabledd yn y diwydiant glo yng Nghymru, Dydd Iau,8fed o Awst am 11am ar stondin Prifysgol Aberystwyth.

Wellcome Trust
Mae’r Wellcome Trust yn sefydliad elusennol byd-eang sy'n ymroddedig i sicrhau gwelliannau neilltuol mewn iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae'n cefnogi’r meddyliau gorau ym maes ymchwil biofeddygol a'r dyniaethau meddygol. Mae ehangder cymorth yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd, addysg a chymhwyso ymchwil i wella iechyd. Mae'n annibynnol o fuddiannau gwleidyddol  n masnachol. www.wellcome.ac.uk

au30113