Datganiad Prifysgol Aberystwyth

16 Awst 2013

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo’n gryf i Ganolfan y Celfyddydau ac rydym yn rhannu dymuniad brwd ein rhanddeiliaid gwahanol a’r gymuned leol i ddiogelu a gwella'r ddarpariaeth o raglenni rhagorol a chreadigol ar gyfer pob oedran yn y ddwy iaith. Roeddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddarparu gwybodaeth bellach mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd o gyfathrebu ein hymrwymiad cryf i Ganolfan y Celfyddydau a chynnwys ein rhanddeiliaid wrth gyflawni Cynllun Strategol y Ganolfan  Rydym am ailadeiladu ymddiriedaeth. 

1. Canolfan y Celfyddydau yn y Brifysgol

Mae Canolfan y Celfyddydau wedi bod yn adran o’r Brifysgol am 40 mlynedd ac wedi elwa’n fawr o’i chynnwys yn rhan o’r Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn darparu diogelwch ariannol, gan gario'r risg ariannol ar gyfer unrhyw ddiffyg bob blwyddyn. Mae hi’n rhoi mynediad at gefnogaeth broffesiynol mewn amrywiaeth eang o feysydd; a chyfranogiad mewn cymuned academaidd gyfoethog sy'n cynnig y cyfle i gydnabod ac ymestyn doniau a sgiliau staff Canolfan y Celfyddydau. Yn naturiol, fel rhan werthfawr o Brifysgol Aberystwyth, mae Canolfan y Celfyddydau hefyd yn cyfrannu at gyflwyno Cynllun Strategol y Brifysgol; mae hi hefyd yn hanfodol bod y Ganolfan yn bodloni diddordebau a strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn gefnogwr allweddol. 

Rydym wedi cydnabod bod cyfranogiad allanol yng Nghanolfan y Celfyddydau yn fuddiol. Fel Prifysgol, mae cyfranogiad aelodau allanol ein Cyngor yn dod â chyfraniadau ardderchog gan ystod o sectorau, ac annibyniaeth hanfodol wrth lywodraethu. Oherwydd ein bod yn gweld manteision y mewnbwn hwn gan gynrychiolwyr o'r celfyddydau o safon uchel y sefydlom Fwrdd Ymgynghorol ar gyfer Canolfan y Celfyddydau yn ystod haf 2012 i ystyried y strategaeth a rhaglen y Ganolfan. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr o etholaethau gwahanol Canolfan y Celfyddydau, ac yn hanfodol, o Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae rôl y Bwrdd Ymgynghorol yn datblygu’n dda, ac mae ei aelodau allanol wedi cymryd rhan gyflawn wrth ddatblygu Cynllun Strategol ardderchog ac uchelgeisiol Canolfan y Celfyddydau. 

Ein cam nesaf yw penodi Cyfarwyddwr newydd ar gyfer Canolfan y Celfyddydau a byddwn yn gweithio'n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru ac aelodau eraill y Bwrdd Ymgynghorol ar y broses benodi sydd eisoes ar y gweill. Mae sicrhau’r penodiad gorau posibl, ochr yn ochr â phresenoldeb allanol bwysig ar y Bwrdd Ymgynghorol presennol, yn hanfodol ar gyfer arweinyddiaeth a datblygiad Canolfan y Celfyddydau yn y dyfodol. 

Mae'r Brifysgol wedi darparu £ 5.1 miliwn o gyllid i Ganolfan y Celfyddydau dros y pum mlynedd diwethaf, a rhagwelir y cyllidio’n parhau, ar yr un raddfa ag ar hyn o bryd, fel rhan o’r Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol newydd, a ddaeth i fodolaeth ar 1 Awst. Caiff Cyfarwyddwr newydd Canolfan y Celfyddydau ei rymuso, o fewn fframwaith yr Athrofa, i gyflwyno'r Cynllun Strategol. Lluniwyd y Cynllun yn dilyn ymgynghoriad trwyadl ac fe’i cymeradwywyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'n Corff Llywodraethol ein hunain. Mae'r model Athrofa yn caniatáu i'r Ganolfan i weithredu mewn amgylchedd ddatganoledig, i dynnu ar adnoddau Adrannau eraill yn y Brifysgol, ac i fwynhau sybsidiaredd ymarferol sy'n caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud ar y lefel sy'n gweddu orau i dynnu ar arbenigedd y rhai sy'n rhedeg y Ganolfan. Bydd Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau yn gyfrifol am gysylltu gyda'r Bwrdd Ymgynghorol a Chyngor Celfyddydau Cymru; a rhan hanfodol o’r rôl fydd sicrhau bod lleisiau’r gymuned amrywiol iawn a’r rhanddeiliaid, yn y ddwy iaith, yn cael eu clywed a bod cynaliadwyedd Canolfan y Celfyddydau yn y dyfodol yn cael ei sicrhau. 

Mae'r Brifysgol a'r gymuned ill dwy yn cytuno bod cynaliadwyedd Canolfan y Celfyddydau yn y dyfodol yn holl bwysig ac i alluogi hyn, rydym yn edrych ymlaen at benodiad y Cyfarwyddwr newydd. Bydd y Cyfarwyddwr yn gweithio gyda'r Bwrdd Ymgynghorol i sicrhau bod eu rolau arweinyddiaeth a chynghori allanol yn cael eu hymgorffori'n llawn. Rydym yn gweld y cyfranogiad allanol hwn, ochr yn ochr â’r integreiddio parhaus i fywyd a gwaith y Brifysgol a'r gymuned fel y ffordd orau o sicrhau dyfodol llewyrchus i Ganolfan y Celfyddydau.

2. Honiadau o fwlio

Mae un o'r materion a godwyd gan ein Hundeb UCU lleol yn y cyfryngau, ac eto yn y cyfarfod cyhoeddus yn ddiweddar, yn cynnwys honiadau di-sail o fwlio ac o'r defnydd rheolaidd o atal dros dro gan y Brifysgol. Nid yw’r honiadau hyn wedi eu nodi ac er gwaethaf ceisiadau niferus gan y Brifysgol y dylai manylion penodol gael eu darparu, nid oes unrhyw fanylion wedi dod i law. Mae gan y Brifysgol bolisi o ddim goddefgarwch parthed bwlio a phrosesau cadarn i'w atal. Gallwn gadarnhau mai dim ond pan fetho popeth arall, y mae’r  Brifysgol yn atal dros dro. Ym mhob achos lle mae atal dros dro yn angenrheidiol, rydym yn edrych ar yr holl opsiynau yn drylwyr. Credwn fod y nifer cymharol fach o achosion o atal dros dro dros y 3 blynedd diwethaf yn cadarnhau hyn. O ran y broses ddisgyblu, rydym yn annog ein hundebau llafur lleol i barhau i drafod proses symlach gyda ni.

Mae'r Brifysgol yn cymryd ei chyfrifoldeb fel cyflogwr o ddifri ac ar gael bob amser i ymgysylltu â'n holl undebau a staff ar faterion o ddiddordeb cyffredinol. Rydym wedi cyfarfod ac wedi gohebu gydag undeb llafur, yr UCU, y Llywydd a gododd y pryderon yn y cyfryngau. Hyd yn hyn, er gwaethaf pob cyfle a gofyn, nid ydym wedi cael unrhyw wybodaeth oddi wrthynt neu wedi derbyn y 'ffeil' o achosion y cyfeirir ati yn y cyfryngau. Mae bron yn amhosibl mynd i'r afael, neu yn wir wrthbrofi, honiadau pan nad ydym wedi ein cyflwyno gyda'r dystiolaeth a allai ein helpu i ddeall ei persbectif. Wedi dweud hynny, mae'n werth nodi bod y dystiolaeth wrthrychol ac annibynnol sydd ar gael yn cymryd safbwynt gwahanol iawn: mae arolwg straen galwedigaethol cenedlaethol yr UCU ar gyfer 2012 yn dangos yn glir bod Aberystwyth yn yr 20 prifysgol uchaf ar gyfer lles, ac yn y safle isaf o’r holl brifysgolion yr adroddwyd arnynt ar gyfer canran y gweithwyr sy’n dweud eu bod yn cael eu bwlio yn gwaith. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn barod i gynnal cyfarfodydd pellach ac i ystyried unrhyw dystiolaeth pan fyddwn yn ei dderbyn, ac rydym yn cynnig gwahoddiad i’n holl undebau campws i sesiynau adborth a gwrando i bwyso a mesur y trefniadau presennol. Rydym bob  amser yn barod i ffyrdd o wella cyfathrebu a ffyrdd o weithio gyda'n gilydd.

Un enghraifft o ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i fewnbwn staff ac undebau yn llunio ein ffyrdd o weithio yw adolygiad o bolisi a gweithdrefn Urddas a Pharch yn y Gwaith. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd drwy gyfres o weithdai a gynlluniwyd i wrando ar staff ac i glywed eu barn ar sut y gallwn eu cefnogi i ddatrys materion posib yn y gweithle, yn  y modd gorau. Cynhaliodd Ymgynghorydd Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Brifysgol, hyrwyddwyr cydraddoldeb adrannol a staff Adnoddau Dynol sesiwn beilot cyntaf ym mis Awst ac rydym yn annog yr undebau i gymryd rhan yn y ffordd arloesol hon o gynllunio polisi a gweithdrefn gan dynnu ar wybodaeth a phrofiad ein staff.

3. Ymchwiliad Iechyd a Diogelwch

Mae llawer o'r drafodaeth a llawer o'r emosiwn diweddar ynghylch Canolfan y Celfyddydau wedi canolbwyntio ar unigolion. Hyd yn hyn, cyfyngwyd ar sylwadau cyhoeddus y Brifysgol gan ein rhwymedigaeth i gyfrinachedd er mwyn amddiffyn y rhai dan sylw. Fodd bynnag, gan fod canlyniad y broses briodol yn hysbys, rydym yn credu ei bod hi o fudd i’r cyhoedd, i wneud sylwadau mwy manwl.

Gallwn gadarnhau bod, yn unol â gweithdrefnau'r Brifysgol, panel annibynnol wedi cyfarfod ac wedi cynnal archwiliad helaeth o ystod o honiadau mewn perthynas ag unigolyn, yn ymwneud ag iechyd a diogelwch. Mae pob person bellach wedi derbyn copi o adroddiad y panel a'i argymhellion. 

Yn yr adroddiad hwn, gwneir datganiadau allweddol am ystod eang o drefniadau iechyd a diogelwch a oedd yn eu lle yng Nghanolfan y Celfyddydau yn gynnar yn 2013. Mae'r Brifysgol yn cymryd  y nifer o bryderon a godwyd gan y panel annibynnol o ddifrif, ac mae eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion iechyd a diogelwch sylweddol, gan fod diogelwch a lles aelodau'r gymuned, myfyrwyr a staff sy'n defnyddio ein safle yn hollbwysig i ni. Yn benodol, mae'r panel annibynnol wedi tynnu sylw at y diffyg trylwyredd mewn materion iechyd a diogelwch yng Nghanolfan y Celfyddydau, gan nodi canlyniadau posibl difrifol yn sgil ymagwedd cadarn annigonol. 

Mae'r panel wedi argymell bod y Brifysgol yn cymryd camau ar unwaith i dynnu cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch oddi ar yr unigolyn hyd nes y gellir sicrhau bod amodau penodol mewn perthynas â hyfforddiant iechyd a diogelwch wedi cael eu bodloni. 

Roedd y Brifysgol yn bryderus iawn pan godwyd y materion iechyd a diogelwch difrifol yn y lle cyntaf, ac mae hi wedi cymryd gofal mawr i sicrhau archwiliad trylwyr o'r mater. Mae’r unigolyn dan sylw yn parhau i fod yn un o’n gweithwyr, ac nid ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon, y gwnaethom unrhyw gynnig iddi hi, ei chynrychiolwyr neu'r panel y dylai hi gael ei diswyddo. O’i rhan ei hun, mae'r Brifysgol bellach yn ystyried ei hymateb i benderfyniad ac argymhellion y panel fel sy’n ofynnol i'r broses. Ein bwriad clir yw parhau i weithio gyda’r unigolyn i nodi ei rôl yn y dyfodol. Gall hyn fod yn gyflogaeth yn y Ganolfan neu mewn man arall yn y Brifysgol. Byddwn yn cynnig cyfleoedd i ymdrin â’r materion hyfforddi a datblygu a nodwyd.  Rhaid i'r Brifysgol sicrhau bod unrhyw weithiwr sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn cyrraedd y safonau derbyniol sy’n ofynnol.  

Rydym yn falch bod y panel wedi dod i benderfyniad, ac er ein bod yn gresynu at yr angen am yr ymchwiliad hwn, rydym yn hyderus bod y penderfyniad hwn yn dangos bod ein camau gweithredu yn  angenrheidiol ac yn briodol, ac wedi eu cymryd yn unig er mwyn sicrhau parch llawn i iechyd a diogelwch pob un sy'n defnyddio ac yn gweithio yng Nghanolfan y Celfyddydau.