Llaeth iach

Dr Sharon Huws

Dr Sharon Huws

21 Awst 2013

Gallai cynnyrch llaeth gynnwys cyfradd uwch o frasterau iach omega-3 drwy’r flwyddyn, diolch i ddarganfyddiad sydd yn ymddnagos heddiw (21 Awst) yng nghyfnodolyn y Gymdeithas Microbioleg Gymwysedig, y Journal of Applied Microbiology.

Mae gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi darganfod bod y cemegau sy’n rhoi’r arogl gwyrdd nodweddiadol o laswellt sydd newydd ei dorri, yn lladd y bacteria sy’n trawsnewid brasterau omega-3 yn frasterau dirlawn yn stumog y fuwch (rwmen).

Mae IBERS yn derbyn cyllid strategol oddi wrth y BBSRC, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Bioleg (BBSRC).

Arweiniwyd y gwaith gan Dr Sharon Huws, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS. Dywedodd; “Rydym yn gwybod ers amser bod llaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn yr haf yn cynnwys mwy o frasterau iach omega-3 o’i gymharu â llaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn y gaeaf, ac rydym yn gwybod bod hyn efallai oherwydd effaith gwrthficrobaidd arogl gwyrdd glaswellt”.

“Wrth gwrs nid yw’n bosib i wartheg fod allan trwy’r flwyddyn ond fe allwn, er enghraifft, ychwanegu un neu fwy o’r cemegau hyn at eu bwyd yn ystod y gaeaf.”

Ar gyfartaledd mae 4% o laeth cyflawn yn cynnwys gwahanol fathau o fraster.

Mae gormod o fraster dirlawn ym mwyd pobl yn gallu achosi problemau iechyd, gan gynnwys anhwylder cardio fasgwlar.  Ond mae cyfran o’r brasterau mewn llaeth yn frasterau omega-3, sy’n cael eu hystyried yn frasterau da yn gyffredinol ac yn llesol i iechyd mewn nifer o ffyrdd.

Mae’r gymhareb o frasterau omega-3 i fraster dirlawn mewn llaeth yn amrywio drwy gydol y flwyddyn ac mae’r gwaith ymchwil hwn yn cynnig ateb i’r cwestiwn pam nad yw llaeth a gynhyrchwyd yn ystod y gaeaf, pan fo gwartheg yn aml i mewn dan do a ddim yn bwydo ar laswellt ffres, ddim mor iachus.

Ychwanegodd Dr Huws; “Wrth gwrs, nid llaeth yn unig fyddai’n fwy llesol wrth ychwanegu’r cemegau naturiol yma, ond hefyd yr amrywiaeth o gynnyrch a gynhyrchir gan ddefnyddio llaeth cyflawn - menyn, caws, iogwrt, ysgytlaeth, a mwy.”

Mae hyn i gyd yn newyddion da mewn byd lle mae disgwyl i boblogaeth y byd gyrraedd 9 biliwn erbyn 2050 a’r galw am fwyd maethlon, fforddiadwy, hygyrch, a diogel yn bwysicach nac erioed.

Mae’r gwaith ymchwil hwn yn parhau gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, a chysylltiadau gyda’r partneriaid diwydiannol Waitrose, DairyCrest, Wynnstay, Coombe Farm a Volac.

Teitl yr erthygl sydd yn ymddangos yn Journal of Applied Microbiology: “Fatty acid oxidation products (‘green odour’) released from perennial ryegrass following biotic and abiotic stress, potentially have antimicrobial properties against the rumen microbiota resulting in decreased biohydrogenation”, Sharon Huws, Mark Scott, John Tweed, Michael Lee, DOI: 10.1111/jam.12314

Mae copiau o’r papru ar gael drwy Ben Norman, Hyrwyddwr Gwyddorau Bywyd, Wiley Blackwell, benorman@wiley.com.

au30613