Cynhadledd datblygwyr meddalwedd yn dychwelyd

iOSDev

iOSDev

30 Awst 2013

Bydd iOSDevUK, sydd yn un o’r 10 cynhadledd  ar iOS gorau yn 2013 i ddatblygwyr apiau ar gyfer yr iPhone a’r iPad yn ôl y blogiwr Ray Wenderlich, yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth o’r 3ydd tan y 5ed o Fedi. 

Bellach yn ei thrydedd flwyddyn â gyda chefnogaeth Cynghrair Meddalwedd Cymru, mae mwy na 200 o ddatblygwyr meddalwedd o bob cwr o’r byd, gan gynnwys yr Ariannin a Malaysia, wedi cofrestru ymlaen llaw i fynychu’r digwyddiad eleni, sydd a phob lle wedi ei werthu.

Dilynwch IOSDEVUK ar twitter @IOSDEVUK / #IOSDEVUK

AU32213