Prawf llygaid yn yr anialwch

Yr Athro Dave Barnes (chwith) yn dal prototeip o darged calibro lliw PanCam a Dr Stephen Pugh yn ystod profion a gynhaliwyd gyda ‘Bridget’, cerbyd maint llawn tebyg i’r ExoMars, gafodd eu cynnal ar draeth Clarach ger Aberystwyth yn 2010.

Yr Athro Dave Barnes (chwith) yn dal prototeip o darged calibro lliw PanCam a Dr Stephen Pugh yn ystod profion a gynhaliwyd gyda ‘Bridget’, cerbyd maint llawn tebyg i’r ExoMars, gafodd eu cynnal ar draeth Clarach ger Aberystwyth yn 2010.

03 Hydref 2013

Bydd gwyddonydd y gofod o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i anialwch Atacama yn Chile yn ddiweddarach yr wythnos hon wrth i baratoadau ar gyfer taith ExoMars i’r blaned Mawrth yn 2018 fynd yn eu blaen.

Mae Dr Stephen Pugh o’r Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg (IMPACS) yn gweithio ar Offeryn Camera Panoramig (PanCam) ExoMars yn ystod profion maes fydd yn cael eu cynnal dros gyfnod o saith diwrnod gan ddechrau ar ddydd Llun 7 Hydref.

PanCam fydd ‘llygaid’ gwyddonol y daith a bydd yn cynnwys system gywiro lliw newydd i sicrhau bod y delweddau a fydd yn cael eu hanfon yn ôl i'r ddaear yn cynrychioli’r lliwiau ar Mawrth yn gywir.

Mae target calibardu PanCam yn cynnwys nifer o ddarnau gwydr lliw sydd wedi eu cynhyrchu gan ddilyn proses debyg i’r un a ddefnyddiwyd yn yr oesoedd canol, ac mae’n mesur 50mm x 50mm, 18mm o uchder ac yn pwyso dim mwy na 25 gram.

Mae gwaith PanCam Aberystwyth yn cael ei arwain gan yr Athro Dave Barnes, a fydd yn gweithio o ganolfan reoli’r daith yn Labordai Rutherford Appleton yn ystod y profion gydag aelodau eraill o dîm PanCam.

“Bydd dysgu sut i weithredu'r PanCam ar y blaned Mawrth yn hanfodol i lwyddiant y daith, ac mae’r prawf maes hwn yn anialwch yr Atacama yn Chile yn gam arwyddocaol yn ei ddatblygiad”, dywedodd yr Athro Barnes.

“Hwn fydd y tro cyntaf i’r darnau offer prototeip gael eu hintegreiddio gyda cherbyd datblygu ExoMars a'u profi mewn amgylchedd o'r fath.”

“Ychydig oson, os o gwbl, sydd yn atmosffer Mawrth ac mae hyn yn golygu fod y lefelau uchel o ymbelydredd uwch fioled yn achosi i liwiau bylu yng ngolau’r haul. Daeth y syniad o ddefnyddio gwydr lliw o weld ffenestri gwydr lliw mewn eglwysi sydd, yn achos llawer ohonynt, yn dyddio o’r oesoedd canol. Er iddynt fod yng ngolau’r haul ers canrifoedd, ychydig iawn mae’r lliwiau wedi pylu.

"Mae’r gwyddonwyr am i’r delweddau a ddaw yn ôl o’r blaned Mawrth i fod yn gywir o ran lliwiau (fel pe baent yn cael eu gweld gan bobl) er mwyn eu cynorthwyo i adnabod  targedau gwyddonol posibl ar gyfer ymchwiliad pellach," ychwanegodd yr Athro Barnes .

Bydd y tîm o Aberystwyth yn gyfrifol am brosesu'r delweddau a dynnwyd gan PanCam gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gwelediad cyfrifiadurol ac algorithmau a ddatblygwyd yn Aberystwyth.

Bydd trydydd aelod o dîm Aberystwyth, Dr Laurence Tyler, hefyd wedi ei leoli yn Labordai Appleton Rutherford yn ystod y profion.

Mae taith ExoMars yn cael ei harwain gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) ac Asiantaeth Ofod Rwsia (Roscosmos).

Cyllidwyd y gwaith sydd wedi ei wneud gan Brifysgol Aberystwyth gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r prawf maes SAFER – Sample Filed Acquisition Experiment with a Rover – yn Paranal yn anialwch yr Atacama yn Chile yn rhedeg o ddydd Llun 7 tan ddydd Sul 13 Hydref .

Dilynwch blog SAFER yma http://safertrial.wordpress.com/

ExoMars yn Aberystwyth

Cynhaliwyd cyfres o brofion awyr agored gyda ‘Bridget’, cerbyd maint llawn tebyg i’r ExoMars, ar draeth Clarach ger Aberystwyth yn ystod haf 2010. Yn ystod y profion gosodwyd camerâu PanCam Aberystwyth ar y mast a’u cyfeirio at nifer o dargedau o ddiddordeb gwyddonol gan ddefnyddio uned wyro. Tynnwyd y lluniau gan y ddwy lens ongl lydan a chamera closio manylder uchel.

AU32713