Myfyrwyr, ŵyau buarth a bysedd y blaidd....

Tony Burgess (chwith) o Birchgrove Eggs a Adrian Smith, Prif-Gogydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Tony Burgess (chwith) o Birchgrove Eggs a Adrian Smith, Prif-Gogydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

16 Hydref 2013

Mae cyflenwr ŵyau buarth Prifysgol Aberystwyth, Birchgrove Eggs, yn bwydo ei ieir dodwy gyda bysedd y blaidd (lupins) sydd yn cael eu tyfu yn y Deyrnas Gyfunol i gymryd lle soia wedi ei fewnforio.


Mae cwmni ŵyau Birchgrove Eggs yn cyflenwi mwy na 4000 o wyau yr wythnos i Brifysgol Aberystwyth, ac mewn treial masnachol ar gyfer prosiect ymchwil gyda gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), maent yn bwydo’r ieir gyda stwnsh haenau, lle mae'r rhan fwyaf o gydran protein y bwyd yn cael ei ddarparu gan fysedd y blaidd melyn yn hytrach na'r protein soia arferol.


Yn draddodiadol roedd soia yn ganran helaeth o fwyd dofednod a mae defnyddio dewis arall sy’n cael ei dyfu yn agosach at adre ac nad yw’n effeithio ar ansawdd yr ŵyau yn cyfrannu at sicrwydd tarddiad a chynaliadwyedd.

Mae Birchgrove yn cynnal treial masnachol 18 wythnos fel rhan o brosiect ymchwil a datblygu ar y cyd a rhwng diwydiant a'r byd academaidd lle mae Prifysgol Aberystwyth yn un o 12 o bartneriaid.

Cwmni o Drawscoed ger Aberystwyth yw Birchgrove, sy’n cael ei redeg gan Tony a Gwen Burgess. Dywedodd Tony; "Rydym yn falch iawn i fod yn bartneriaid yn y prosiect ymchwil pwysig hwn sydd eisoes wedi dangos y potensial i gynhyrchu maeth gwirioneddol a manteision costau posibl yn y dyfodol i gynhyrchwyr dofednod ledled y Deyrnas Gyfunol.

Mae costau porthiant dofednod yn cynyddu, ac rydym yn chwilio am ddewisiadau eraill sydd wedi eu tyfu yn agosach at adre yn hytrach na soia wedi ei fewnforio, ffynhonnell yr ydym wedi dibynnu arni ers blynyddoedd. Mae tyfu bysedd y blaidd yn y Deyrnas Gyfunol i gymryd lle soia wedi ei fewnforio yn stori newyddion-da wirioneddol - i ddefnyddwyr, ffermwyr a bywyd gwyllt. Mae'r ymchwil gyda IBERS yn enghraifft wych o arloesi a phartneriaeth trwy wyddoniaeth."

Nod y prosiect ymchwil a datblygu yw edrych ar fysedd y blaidd melys (bwytadwy) sy'n uchel mewn protein fel ffynhonnell amgen ymarferol o brotein a dyfir yn y DG er mwyn ei gynnwys mewn bwydydd anifeiliaid a physgod yn hytrach na soia, ac yn ddelfrydol hyd at 100% o’r gydran protein soia.

Dangosodd arbrofion ar fwydo ieir dodwy â bysedd y blaidd yn IBERS nad oedd unrhyw effaith sylweddol ar faint o fwyd a dŵr yr oeddent yn eu cymryd, twf, pwysau, nifer yr ŵyau yr oeddent yn eu cynhyrchu na’u hiechyd. Yn wir, ymddengys fod bwyd sy’n cynnwys bysedd y blaidd yn perfformio yr un fath â'r bwyd arferol.

Mae prisiau soia yn cynyddu a chyflenwadau y DG yn cael eu mewnforio yn bennaf o Dde America, ac mae effaith eu cynhrychu yn Ne America yn golygu fod ardaloedd anferth o dir wedi eu neilltuo ar gyfer cynhyrchu soia.

Dywedodd Nigel Scollan, Cadair Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn IBERS a'r Prif Ymchwilydd ar y prosiect ymchwil hwn; "Mae’r DG ac Ewrop yn wynebu anhawsterau mawr gyda diogelu cyflenwad protein yn y sector da byw ac maent yn ddibynnol iawn ar soia wedi ei fewnforio. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu faint o brotein y gellir ei dyfu "ar y fferm" yn y DG. Dangosodd astudiaethau ymchwil IBERS botensial bysedd y blaidd ar gyfer ieir dodwy ac mae'n wych bod y gwaith yma yn symud ymlaen ar ffurf astudiaeth ar raddfa fasnachol fawr gyda Birchgrove."

Dywedodd Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth;
"Rydym wastad wedi defnyddio ŵyau Birchgrove yn bennaf oherwydd ansawdd uchel y cynnyrch. Rydym yn credu bod prynu ŵyau’r maes yn  lleol yn cynnig manteision niferus. Mae'n wych gweld eu bod yn awr yn gweithio i ddatblygu'r bwyd anifeiliaid sy'n lleol yn ogystal a thrwy hynny leihau ôl-troed carbon hyd yn oed ymhellach ar gyfer ein ŵyau.”

AU37613