Llwyddiant Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Yr Athro Sarah Prescott

Yr Athro Sarah Prescott

17 Hydref 2013

Cyflwynwyd gwobr lenyddol i ddau aelod o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod lansiad y cyfnodolyn International Journal of Welsh Writing in English ar nos Fercher 16 Hydref.

Yr Athro Sarah Prescott a Dr Mary Chadwick yw enillwyr Gwobr M. Wynn Thomas ar gyfer 2013, a chafodd y ddwy eu cyflwyno mewn digwyddiad dathlu arbennig a gynhaliwyd yn Theatr Ddarlithio Callaghan ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Gwobr M. Wynn Thomas yn cael ei chynnig er mwyn dathlu gwaith ysgolheigaidd rhagorol yn y maes ysgrifennu yn Saesneg o Gymru. Mae i’r wobr ddau gategori:‘Agored’ ac 'Ysgolorion Newydd'.

Profodd Yr Athro Prescott, Cyfarwyddwr yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol (ILLCA) ym Mhrifysgol Aberystwyth, lwyddiant yn y categori Agored, a chafodd ei chyn-fyfyrwraig PhD Dr Chadwick, lwyddiant yn y categori 'Ysgolorion Newydd'.

Siaradodd Sarah Prescott am ei phleser o dderbyn un o'r gwobrau; "Mae gwaith yr Athro M. Wynn Thomas ei hun wedi torri tir newydd wrth wthio ffiniau cyfnod Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg yn ôl.

"Mae’n anrhydedd mawr i dderbyn y wobr hon fel rhan o fy nghyfraniad fy hun at yr ailgysyniadu parhaus o’r maes llenyddol hwn ac i gynnwys awduron merched o'r ail ganrif ar bymtheg megis Katherine Philips. Yr wyf hefyd wrth fy modd bod Mary Chadwick yn llwyddo mor dda yn y maes cynyddol fywiog hwn, ac roedd yn bleser goruchwylio ei thesis doethurol."

Mae traethawd yr Athro Prescott ar Katherine Philips and Archipelagic Coterie Space yn seiliedig ar ymchwil a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig ar gyfer astudiaeth Women Writers and Wales, 1600-1800 a bydd yn cael ei gyhoeddi yn Tulsa Studies in Women’s Literature yn 2014.

Cwblhawyd y dwbl i Brifysgol Aberystwyth gyda llwyddiant Dr Mary Chadwick yn y categori 'Ysgolorion Newydd'. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2013 ac mae bellach yn diwtor yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Ychwanegodd Mary, "Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd fawr. Mae'n wych bod y beirniaid yn cydnabod ysgrifennu Cymreig yn Saesneg yn y ddeunawfed ganrif fel ardal gyffrous o ymchwil."

Mae Traethawd Mary, Walking Conundrums: Masquerades, Riddles and National Identity in Late Eighteenth-Century Wales, a gyhoeddwyd yn y casgliad Writing Wales from the Renaissance to Romanticism, yn archwilio'r berthynas rhwng yr arferion darllen ac ysgrifennu o aelodau bonedd Gogledd Cymru a'u profiadau o hunaniaethau Cymreig, Prydeinig a Saesneg.

Bu’r Athro Prescott yn siarad yn y digwyddiad fel un o banel o arbenigwyr, a oedd yn cynnwys yr Athro M. Wynn Thomas ei hun, ar ddyfodol Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg.

AU38513