Première Y Gwyll / Hinterland

Richard Harrington yw DCI Mathias yn Y Gwyll / Hinterland

Richard Harrington yw DCI Mathias yn Y Gwyll / Hinterland

17 Hydref 2013

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal première o’r gyfres ddrama dditectif hir-ddisgwyliedig Y Gwyll / Hinterland, heddiw, Dydd Iau, 17 Hydref.

Mewn noson yn yr Hen Goleg, bydd première o Y Gwyll / Hinterland, yn gyfle i wahoddedigion arbennig fwynhau y bennod agoriadol yn llawn, cyn ei darlledu ar S4C ar Dydd Mawrth 29 Hydref am 9:30pm.

Bu Prifysgol Aberystwyth yn bartner allweddol yn ystod cynhyrchu Y Gwyll / Hinterland. Cafodd myfyrwyr brofiad gwaith ar leoliad a chael profiad gwerthfawr o’r diwydiant, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio i'w paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae Carwyn Blayney yn ei drydedd flwyddyn yn adran Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth. Meddai, "Roedd gweithio ar Y Gwyll / Hinterland yn fraint. Roedd gweithio ar set broffesiynol gyda staff mor arbennig yn brofiad bythgofiadwy. Er fy mod yn nerfus iawn ar ddechrau’r profiad, fe ddysgais fod gweithio’n galed a gofyn cwestiynnau addas yn cael effaith ar sut roedd y staff yn eich trin. Yn bwysicach fyth, roedd y profiad yn addysgiadol iawn, a dw i wedi elwa’n fawr ohono.”

Meddai Dr Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol dweud, "Mae'r bartneriaeth gyda Fiction Factory, un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf blaenllaw y Deyrnas Gyfunol, yn ystod cynhyrchu Y Gwyll / Hinterland yn cyfleu sut mae adran addysgu ac ymchwil o safon byd -eang megis yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn gallu darparu lleoliadau o'r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr, pob un ohonynt yn cael budd mawr o weithio gyda'r cwmni.

"Rwy'n hynod ddiolchgar i Fiction Factory am ddarparu profiadau cadarnhaol o'r fath ar gyfer ein myfyrwyr ac, yn wir, i staff a fu’n gweithio gyda nhw yn ystod eu cyfnod yn Aberystwyth. Mae'r bartneriaeth hefyd yn dangos ymrwymiad yr Adran i weithio gyda'r diwydiannau creadigol a diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt er budd myfyrwyr, staff a'r cwmni cynhyrchu."

Cafodd Y Gwyll / Hinterland ei ffilmio yn gyfan gwbl yng Ngheredigion, gyda lleoliadau cyfarwydd yn Aberystwyth ac o’r Brifysgol wrth galon y ddrama.

Wrth groesawu'r première i Aberystwyth, meddai Is - Ganghellor y Brifysgol, yr Athro April McMahon: "Rwy'n falch iawn bod S4C a'r Fiction Factory wedi dewis y Brifysgol fel lleoliad ar gyfer dangosiad o Y Gwyll / Hinterland.  Mae hi’n amlwg yn barod bod y gyfres yn cyfleu tirwedd prydferth canolbarth a gorllewin Cymru i’r dim ac yn un o sêr digamsyniol y rhaglen. Dyma le sydd yn meddu ar bersonoliaeth fawr."

Mae Y Gwyll / Hinterland yn gynhyrchiad gan Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, Tinopolis, BBC Cymru Wales, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd. Mae'r gyfres wedi'i chynhyrchu yn y Gymraeg a Saesneg ac fe fydd yn cael ei gwerthu yn rhyngwladol. Yn dilyn y dangosiad cyntaf ar S4C, mi fydd BBC Cymru Wales a BBC Four hefyd yn darlledu'r gyfres yn 2014, yn ogystal â'r darlledwyr DR Denmark - drwy gytundeb gyda'r dosbarthwyr a'r partneriaid cyd-gynhyrchu ALL3MEDIA International.

AU32913