Cytundeb arloesol gyda Phrifysgol Genedlaethol Seoul

Mae disgwyl i groesiadau Miscanthus tebyg i’r rhai yma sydd yn tyfu yn Aberystwyth chwarae rhan gynyddol bwysig er mwyn darparu ynni adnewyddadwy. Mae Dr John Clifton-Brown (Chwith) a Dr Lin Huang wedi casglu Miscanthus gwyllt yn Ne Korea er mwyn cynyddu cynnyrch bio-màs ac ansawdd er mwyn ei ddefnyddio yn y Deyrnas Gyfunol, yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau.

Mae disgwyl i groesiadau Miscanthus tebyg i’r rhai yma sydd yn tyfu yn Aberystwyth chwarae rhan gynyddol bwysig er mwyn darparu ynni adnewyddadwy. Mae Dr John Clifton-Brown (Chwith) a Dr Lin Huang wedi casglu Miscanthus gwyllt yn Ne Korea er mwyn cynyddu cynnyrch bio-màs ac ansawdd er mwyn ei ddefnyddio yn y Deyrnas Gyfunol, yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau.

22 Hydref 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth ar fin arwyddo cytundeb gyda Phrifysgol Genedlaethol Seoul i rannu plasm cenhedlu miscanthus, ar sail egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol i hybu’r gwaith o gynhyrchu bio-ynni ac i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Mae adnoddau genetig cynhenid miscanthus o Ddwyrain Asia yn ddefnyddiol i wella cnydau bio-ynni miscanthus sy’n bodoli eisoes mewn mannau eraill yn y byd. Gellir defnyddio miscanthus i greu cnwd ynni uwch ar diroedd o ansawdd salach sy’n llai addas ar gyfer cynhyrchu bwyd.

Mae llunwyr polisïau yn Ewrop yn sylweddoli pa mor bwysig fydd cnydau bio-ynni yn y gymysgedd o ynni adnewyddadwy a ddefnyddir yn y dyfodol, ac mae polisïau cenedlaethol yn cael eu datblygu i hybu defnydd masnachol ohonynt.

Bydd y cytundeb rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Genedlaethol Seoul i rannu plasm cenhedlu miscanthus yn cefnogi gwelliannau yn nhechnegau bridio miscanthus, ac yn ymateb i bolisïau cenedlaethol ar ddatblygu ynni adnewyddadwy.

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un o’r sefydliadau ymchwil cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i weithredu cytundebau rhyngwladol ar ‘Rannu Mynediad a Budd’ ar gyfer bridio cnydau, yn ysbryd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.

Ar 29 Hydref 2013, bydd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn teithio i Weriniaeth Korea (De Korea) gyda’r gwyddonwyr Dr John Clifton-Brown a Dr Lin Huang o IBERS, a’r Athro Gary Rawnsley o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, i arwyddo cytundeb dwyochrog (telerau a gytunir ar y cyd) ar ‘Rannu Mynediad a Budd’ gyda Phrifysgol Genedlaethol Seoul, lle mae’r Athro Cyswllt Do-Soon Kim o Adran Gwyddor Planhigion yn arwain ymchwil ar Miscanthus in Ne Korea.

Mae arwyddo’r cytundeb hwn yn dilyn arwyddo cytundeb tebyg rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r Sefydliad Ymchwil i Rywogaethau Brodorol a ariennir gan Gyngor Amaeth Taiwan, ym Mehefin 2012.

Mae polisi’r Cenhedloedd Unedig ar gadwraeth bioamrywiaeth fyd-eang wedi’i ymgorffori yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol sy’n ceisio diogelu sofraniaeth a chynaliadwyedd adnoddau genetig naturiol, wrth annog gwledydd i rannu eu hadnoddau at ddibenion ymchwil a masnachol.

Disgwylir y bydd protocol Nagoya 2010 y Cenhedloedd Unedig, a arwyddwyd gan dros 170 o wledydd, yn dod i rym yn 2014. Mae’n gwneud darpariaeth bellach ar gyfer mynediad at adnoddau genetig, ac ar gyfer rhannu buddion ymchwil a masnacheiddio gyda’r wlad sy’n eu rhoi.

Drwy sefydlu cytundebau dwyochrog, gall gwledydd ymrwymo i rannu buddion adnoddau naturiol, technolegau, data ymchwil, a masnacheiddio. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i lunio cytundebau ‘Rhannu Mynediad a Budd’ o’r fath gyda Thaiwan a De Korea.

Ar ôl y seremoni i arwyddo’r cytundeb gyda Gweriniaeth Korea, bydd yr Athro Grattan yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Genedlaethol Seoul ar y pwnc ‘Volcanic modification of global climate trends’.

Dywedodd yr Athro Grattan; “Mae arwyddo’r cytundebau rhyngwladol hyn yn gyflawniad aruthrol. Mae’n tystio i hygrededd ymchwil gwyddonwyr IBERS ledled y byd, ac mae’n cydnabod ein cyfraniad at gadwraeth fyd-eang. Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod wedi gosod cynsail ar y defnydd moesegol o adnoddau naturiol”.

Mae o bwys arbennig i wyddonwyr IBERS bod cytundebau rhyngwladol yn cael eu datblygu i sicrhau mynediad at blanhigion miscanthus a gasglwyd mewn gwledydd eraill, ac i sicrhau defnydd moesegol a chynaliadwy o’r planhigion mewn ymchwil gwyddonol a masnach.

Drwy gyfres o raglenni bridio planhigion yn IBERS, mae gwyddonwyr yn dod i sylweddoli llawn botensial miscanthus fel cnwd bio-ynni cynaliadwy. Mae’r cnydau bio-ynni mwyaf llwyddiannus yn cynnig allbwn ‘bio-màs’ uchel yn gyfnewid am fewnbwn isel o faetholion a dŵr. 

Meddai Dr John Clifton-Brown, gwyddonydd ymchwil yn IBERS; “Lluniwyd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ddiogelu adnoddau naturiol yng nghyd-destun eu tarddleoedd cenedlaethol. Fodd bynnag, nid oes gan lawer o wledydd weithdrefnau deddfwriaethol neu weithredol i roi’r confensiwn ar waith. Mae gwyddonwyr IBERS felly wedi cymryd yr awenau i gychwyn trafodaethau diplomyddol ar lefel uchel gydag asiantaethau llywodraethau ledled y byd, i sicrhau bod plasm cenhedlu miscanthus yn medru cael ei symud o wlad i wlad, ac i sicrhau bod y budd sy’n deillio o’r ymchwil yn cael ei rannu â’r gwledydd sy’n ei ddarparu”.

Ychwanegodd yr Athro Cyswllt Do-Soon Kim; “Y Cytundeb ‘Rhannu Mynediad a Budd’ hwn yw’r achos cyntaf o gyfnewid plasm cenhedlu rhwng dwy wlad ar sail egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol yn Ne Korea ac mae’n garreg filltir bwysig i ymchwil ar Miscanthus fel cnwd bio-ynni yn Ne Korea.”

AU36013