Fforwm Llywodraethu’r Rhyngrwyd y Cenhedloedd Unedig

Bu myfyrwyr Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn cyfrannu at y gynhadledd drwy gyfrwng hwb ar-lein, un o ddau leoliad i gynnig hwn yn y Deyrnas Gyfunol.

Bu myfyrwyr Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn cyfrannu at y gynhadledd drwy gyfrwng hwb ar-lein, un o ddau leoliad i gynnig hwn yn y Deyrnas Gyfunol.

24 Hydref 2013

Bu myfyrwyr Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn cyfrannu at y gynhadledd drwy gyfrwng hwb ar-lein, un o ddau leoliad i gynnig hwn yn y Deyrnas Gyfunol.

Testun: Mae myfyrwyr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar Ormes Ar-lein  a drefnwyd gan y Cenhedloedd Unedig.

Roedd y sesiwn, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher 23 Hydref , yn rhan o Fforwm Llywodraethu Rhyngrwyd y Cenhedloedd Unedig (UNIFG ) sy'n cael ei chynnal ar yr ynys Bali yn Indonesia yr wythnos hon, 22-25 Hydref , ar y thema 'Rôl seiberofod mewn datblygiad cynaliadwy'.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o ddau leoliad yn y Deyrnas Gyfunol sy'n cynnig y cyfle i fyfyrwyr gyfrannu at y Fforwm.

Yn ychwanegol at hyn mae’r darlithydd Dr Madeline Carr o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn mynychu'r gynhadledd yn Bali.

Dr Carr yw cydlynydd y Ganolfan Ymchwil Cysylltedd Seibr yn Aberystwyth sydd wedi cael ei sefydlu er mwyn cynnig ffocws ar gyfer ymchwil i faterion yn ymwneud â Gwleidyddiaeth Ryngwladol a thechnoleg newydd.

Dywedodd Dr Carr: "Mae'r UNIGF yn cyfarfod yn arbennig o bwysig ar gyfer trafod ystod eang o gwestiynau am sut yr ydym am i’r Rhyngrwyd fod. Mae'r rhain yn faterion sy'n annatod bwysig i bawb ohonom - ni ddylid eu penderfynu gan gorfforaethau , llywodraethau neu sefydliadau eraill heb fewnbwn gan gymdeithas sifil. Mae sefydlu Prifysgol Aberystwyth fel canolbwynt o bell a gwahodd y gymuned i gymryd rhan yn y cyfarfod yn ffordd wych i gynnig rhywfaint o fewnwelediad i'r dadleuon hyn ac i ganiatáu i bobl yng Nghymru fynegi barn ar hyn.

"Un o'r materion dadleuol yn ystod cynhadledd UNIGF eleni yw cyhoeddiad Arlywydd Brasil yr wythnos diwethaf y bydd yn cynnal uwchgynhadledd yn Rio fis Ebrill nesaf i roi cyfle i'r gymuned fyd-eang i ailfeddwl goruchafiaeth yr Unol Daleithiau yma maes llywodraethu’r Rhyngrwyd. Yn gysylltiedig â hyn, wrth gwrs, y mae’r hyn sydd wedi ei ddatgelu gan Edward Snowden, ond yn rhyfedd  ddigon, nid yw hyn wedi ei drafod yn gynhwysfawr yma eto'r wythnos hon. Mae Diogelwch Seibr yn destun llawer o baneli yn ogystal â hawliau dynol ar-lein. Heriol a diddorol."

Mae Fforwm Llywodraethu’r Rhyngrwyd wedi cyfarfod yn flynyddol ers Uwchgynhadledd y Byd 2006 ar y Gymdeithas Wybodaeth er mwyn meithrin dealltwriaeth gyffredin o sut i wneud y gorau o’r cyfleoedd mae’r Rhyngrwyd yn eu cynnig ac ymateb i’r peryglon ar heriau sy’n dod i’r amlwg.

Mae hefyd yn cynnig lle i wledydd sy'n datblygu i gael yr un cyfle â chenhedloedd cyfoethocach i gyfrannu at y drafodaeth ar lywodraethu’r rhyngrwyd, yn ogystal â hwyluso eu cyfranogiad mewn sefydliadau a threfniadau sydd eisoes yn bodoli.

Mae Fforwm eleni hefyd yn adolygu rôl llywodraethau mewn cydweithrediad aml-randdeiliaid ar gyfer llywodraethu’r Rhyngrwyd, ac un o amcanion cyfarfod Bali yw ceisio canfod tir cyffredin ar y mater hwn.

Mae disgwyl i fwy na 1,500 o gynrychiolwyr i fynychu cyfarfod Bali , gan gynnwys nifer o swyddogion llywodraeth lefel uchel , Prif Swyddogion Gweithredol a chyfarwyddwyr o sefydliadau busnes mawr byd-eang a grwpiau cymdeithas sifil.

Am ragor o wybodaeth ewch i: http://www.intgovforum.org

Dr Madeline Carr

Ymunodd Dr Madeline Carr â Phrifysgol Aberystwyth yn 2012 . Mae'n cydlynu’r Ganolfan Ymchwil Cysylltedd Seibr yn Aberystwyth sydd wedi cael ei sefydlu i ddarparu ffocws ar gyfer ymchwil i faterion yn ymwneud â Gwleidyddiaeth Ryngwladol a thechnoleg newydd.

Mae Dr Carr wedi cynghori Lluoedd Arfog Awstralia ar faterion yn ymwneud â diogelwch seibr a thechnoleg rwydweithio cymdeithasol ynghyd ag aelodau o Senedd Awstralia Christine Milne a Scott Ludlum, yn ogystal â nifer o sefydliadau yn y sector breifat.

Cyn hyn bu’n dysgu ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia , Prifysgol Newcastle (Awstralia ) a Phrifysgol Asia Y Môr Tawel Ritsumeikan yn Siapan.

AU39513