'Gŵyl y Goleuni’

14 Tachwedd 2013

Yn ddiweddar, bu cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth mewn derbyniad a gynhaliwyd gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, i ddathlu Diwali, 'Gŵyl y Goleuni’.

Mae’r Diwali’n cael ei ddathlu gan gymunedau Hindw, Sikh a Jain ledled y byd. Ystyr Diwali yw rhes o oleuadau ac mae’n dathlu’r da uwchlaw'r drwg a’r goleuni uwchlaw’r tywyllwch.

Mae'r derbyniad gyda'r nos yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i Gymru gan y cwmnïau cymunedol ac Indiaidd Indiaidd, megis Tata Steel yn Ne Cymru.

Ymysg y gwahoddedigion oedd Is-gennad Anrhydeddus India yng Nghymru, Raj Aggarwal, aelodau o’r gymuned Indiaidd leol, sefydliadau diwylliannol o Gymru, Prifysgolion a Cholegau Cymru a chynrychiolwyr cwmnïau o India a Chymru.

Yn cynrychioli’r Brifysgol oedd yr Is - Ganghellor, yr Athro April McMahon, Devendra Bhangale o Mumbai sydd yn astudio ar gyfer MBA mewn Gweinyddu Busnes Rhyngwladol, a Shan Mumford a Amarjeet Mutneja o’r Swyddfa Ryngwladol.

Daeth y noson i ben gydag arddangosiad bywiog iawn o arddull Bollywood - dawns a dholki Punjabi, drymio gwerin traddodiadol.