Y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i arwyddo Addewid Iechyd Meddwl

Antony Metcalfe Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru a Rebecca Davies, Dirprwy Is – Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Antony Metcalfe Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru a Rebecca Davies, Dirprwy Is – Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

27 Tachwedd 2013

Ddoe, dydd Mercher 27 Tachwedd, llofnododd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr addewid Amser i Newid Cymru, sy'n rhoi cynllun gweithredu at ei gilydd i roi diwedd ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl.

 Dan arweiniad partneriaeth o dair elusen iechyd meddwl blaenllaw - Gofal, Hafal a Mind Cymru , bydd yr addewid yn cael ei lofnodi yn Undeb y Myfyrwyr gan Rebecca Davies, Dirprwy Is - Ganghellor y Brifysgol a Laura Dickens, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr.

 Yn ystod y digwyddiad, lansiwyd cymdeithas myfyrwyr Amser i Newid Cymru hefyd. Wedi ei sefydlu gan fyfyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, mae’r gymdeithas yn anelu codi ymwybyddiaeth ynglyn ag iechyd meddwl a mynd ati i hyrwyddo’r addewid ar draws y Brifysgol.

 Yn bresennol roedd swyddogion Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys y Llywydd, a staff a myfyrwyr o adrannau’r Brifysgol gan gynnwys Cymorth i Fyfyrwyr, Canolfan Lles Myfyrwyr ac Adnoddau Dynol. Roedd cefnogwyr allanol hefyd yno ac yn eu plith, Wendy Morris-Twiddy, Maer Aberystwyth.

 Meddai Rebecca Davies, Dirprwy Is – Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd gweledigaeth y Brifysgol. Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gwasanaethau sy'n rhoi cymorth i bobl sy'n pryderu am faterion iechyd meddwl. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cwnsela a chymorth lles sydd ar gael i holl fyfyrwyr a staff. Mae iechyd meddwl yn werthfawr ac rydym yn gweithio'n galed i gael gwared ar stigma a gwahaniaethu."

 Meddai Laura Dickens, Swyddog Lles Undeb y Myfyrwyr: “Rwy'n falch iawn i lofnodi'r addewid gan y bydd y myfyrwyr yn gwybod bod eu Hundeb a'r Brifysgol yn barod i siarad am iechyd meddwl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda staff ar y campws i weithredu’r addewid hwn "

 Meddai Olymbia Petrou, Cynghorydd Cydraddoldeb y Brifysgol: "Prifysgol Aberystwyth ac Undeb y Myfyrwyr yw'r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i ymrwymo i’r Addewid hwn, yn ogystal â lansio Cymdeithas myfyrwyr. Rydym yn falch o fod yn arwain yn y gwaith pwysig hwn ac yn gobeithio ei fod yn anfon neges gadarnhaol a phwysig ein bod yn gofalu am iechyd meddwl ac yn awyddus i gefnogi gwaith ac astudio amgylchedd cynhwysol. Mae ein Haddewidion yn ddatganiad cyhoeddus o’n dyhead i helpu i fynd i'r afael â stigma iechyd meddwl ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl ".

 Ychwanegodd Antony Metcalfe Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru:"Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cymryd y camau hyn i roi terfyn ar stigma a chael pobl i siarad am iechyd meddwl. Er bod un o bob pedwar o bobl yn dioddef problemau iechyd meddw , mae e’n dal i fod yn bwnc tabŵ. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli sefydliadau eraill i gymryd rhan a gweithio gydag Amser i Newid Cymru i roi terfyn ar stigma iechyd meddwl."

AU42513