Dathlu llwyddiant y Gynghrair Strategol

Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor

Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a’r Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor

04 Rhagfyr 2013

Heddiw , 4 Rhagfyr 2013, bydd Cynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn cael ei dathlu yn y Senedd .

Mae'r digwyddiad, a noddir gan Elin Jones AC ac Alun Ffred Jones AC, yn dwyn at ei gilydd Weinidogion y Cynulliad, Aelodau, llunwyr polisi a rhanddeiliaid i ddysgu am y gwaith ar y cyd a wneir gan y ddau sefydliad.

Ddwy flynedd ers lansio'r Gynghrair, mae’r digwyddiad yn gyfle i arddangos rhai o'r prosiectau a’r mentrau ar y cyd a ddatblygwyd gan y Prifysgolion.

Cyn y digwyddiad, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae Bangor ac Aberystwyth yn dwy brifysgol annibynnol a balch, â’u hanes , gweledigaethau a strategaethau eu hunain. Un o'r dyheadau yr ydym yn ei rannu, fodd bynnag, yw cydweithio pan fo hynny o fudd gwirioneddol i’r ddwy ochr. Mae'r Gynghrair Strategol yn darparu fframwaith ar gyfer cydweithio, a'r rhyddid i ddewis pryd i’w ddefnyddio. Mae'n Gynghrair o ddewis, yn seiliedig ar barch yr un at y llall, ac ar fantais busnes."

O fewn y Gynghrair ceir cydweithio yn y Gwyddorau Amgylcheddol, Saesneg, Hanes, Cymraeg, Astudiaethau Creadigol, Hanes a Hanes Cymru, Ystadau, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Ansawdd Academaidd, Rhyngwladoli, Ymchwil a chefnogaeth Menter, Cyfathrebu, Cynllunio, Cofrestrfeydd, Adnoddau Dynol, ac Undebau Myfyrwyr . Mae Timau Gweithredol y ddau sefydliad yn gweithio’n agos, gan fonitro, arwain ac annog gweithgareddau partneriaeth.

Ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, cyflwynodd Aberystwyth a Bangor waith mewn dau faes allweddol sef y gwyddorau amgylcheddol ac amaethyddiaeth. Mae hyn yn cynrychioli 23% o staff a gyflwynwyd gan y Prifysgolion. Yn ogystal, dangoswyd llwyddiant y Gynghrair hefyd drwy arweinyddiaeth ar y cyd Rhwydwaith Adnoddau Naturiol Cymru, rhaglen gwerth £7m sydd wedi ei seilio ar y ffaith fod Aberystwyth yn un o’r 15 uchaf am dderbyn cyllid gan y BBSRC a Bangor yn y 15 uchaf am gyllid NERC.

Dywedodd Yr Athro John Hughes, Is - Ganghellor Prifysgol Bangor: "Mae'n dda gweld bod y ddwy Brifysgol yn parhau i gael manteision o'r bartneriaeth, rhywbeth sydd yn cael ei adlewyrchu yn y cyflwyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.  Wrth gwrs, mae gennym hefyd amrywiaeth o enghreifftiau eraill o gydweithredu gydag ystod o sefydliadau yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol, ac maent i gyd yn hanfodol i'n llwyddiant yn y dyfodol. Bydd Bangor yn parhau i weithio gydag Aberystwyth pan mae manteision i'r ddwy brifysgol, ac mae’r profiad yr ydym wedi ennill trwy weithio gyda'n gilydd wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer datblygu partneriaethau o amgylch y byd yn y dyfodol."

Bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC, yn annerch y digwyddiad ynghyd â’r Aelodau Cynulliad sydd yn noddi a’r ddau Is-Ganghellor o Brifysgolion Aberystwyth a Bangor. Bydd llwyddiannau’r Gynghrair i’w gweld ar ffurf arddangosiadau prosiect ac arddangosfeydd.

Gofynnir i unigolion sy’n dymuno mynychu’r digwyddiad yn y Senedd heddiw gysylltu â Chris Drew: 01248 383611/07872418810.

 

Lluniau:  Bydd lluniau o ansawdd uchel ar gael ar gais, cysylltwch â Chris Drew. 

 

Cynghrair Strategol Prifysgolion Aberystwyth a Bangor

Mae’r Gynghrair Strategol rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn adeiladu ar seiliau hanesyddol o gydweithio rhwng y ddau sefydliad ac ar Bartneriaeth Ymchwil a Menter £10.9m a ariennir gan HEFCW a sefydlwyd gan y ddwy brifysgol yn 2006.

Mae’r Prifysgolion yn cydweithio ar draws ystod eang o weithgareddau er mwyn sicrhau trosolwg dros ddatblygiad, gweithredu a thwf yn y Gynghrair.  Mae rhai o ddatblygiadau diweddar yn cynnwys strategaethau ar y cyd mewn Addysgu a Dysgu, Arloesedd ac Ymgysylltu, Ehangu mynediad a phroses cynllunio rhanbarthol.