Diwrnod Agored Rhithwir

Campws Penglais

Campws Penglais

04 Rhagfyr 2013

Os ydych yn fyfyriwr israddedig â diddordeb mewn gwybod mwy am yr hyn sydd gan Brifysgol Aberystwyth i'w gynnig, ond methu gwneud y daith draw, cymerwch ran mewn taith rithwir o gysur eich cartref eich hun yfory (Dydd Iau 5 Rhagfyr).

Mae'r profiad rhithwir, a gynhelir rhwng 6.30-8yh, yn rhoi’r cyfle i unigolion ddarganfod mwy am astudiaethau a bywyd israddedig yn Aberystwyth.

Gallwch fynd ar daith o amgylch y campws, gwrando ar sgyrsiau a gofyn cwestiynau byw i'n siaradwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau. Ymunwch â'n Cyrsiau sesiwn holi ac ateb ac ymunwch â'r sgwrs ar Twitter drwy #AberystwythVOD.

Mae’r Diwrnod Agored Rhithwir gyda digon o wybodaeth am gymorth gan y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr, llety, y dref, ffioedd , cyllid, ysgoloriaethau a bwrsariaethau.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Diwrnodau Agored Prifysgol Aberystwyth http://www.aber.ac.uk/cy/open-days/

 

AU43713