Cynhadledd myfyrwyr seicoleg

Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig

Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig

04 Rhagfyr 2013

Bydd Cynhadledd Flynyddol Myfyrwyr Cymru'r Gymdeithas Seicolegol Brydeinig yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2014, a bydd myfyrwyr o holl brifysgolion Cymru yn cyflwyno eu gwaith yno.

Dyfarnwyd achrediad cenedlaethol y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig i Adran Seicoleg y Brifysgol ym mis Mehefin 2013.

Cymdeithas Seicolegol Prydain yw'r corff cynrychioliadol ar gyfer seicoleg a seicolegwyr yn y Deyrnas Gyfunol ac maent yn gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a chymhwyso seicoleg er lles y cyhoedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol, yr Athro Kate Bullen; "Mae'r Adran Seicoleg yn falch o gynnal y digwyddiad yma ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr o bob cwr o Gymru i Aberystwyth i gyflwyno eu gwaith.

"Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith caled a’r ymroddiad sydd ei angen er mwyn datblygu a chyflwyno prosiect ymchwil israddedig. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i ymgysylltu â'u cymheiriaid o bob cwr o Gymru ac i gyflwyno a dathlu'r hyn maent wedi ei gyflawni."

Bydd cynrychiolaeth gref gan fyfyrwyr Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Aberystwyth, a bydd modd cofrestru ym mis Ionawr. Am fwy o fanylion , ewch i: http://www.aber.ac.uk/en/psychology/latest-news/news-article/title-143159-en.html

AU42313