Y Brifysgol yn croesawu statws Hywel Dda

Yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa Gwyddorau Dynol, Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Mark Drakeford, y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Mr Chris Martin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa Gwyddorau Dynol, Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Mark Drakeford, y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Mr Chris Martin, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

16 Rhagfyr 2013

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Athro Mark Drakeford wedi cyhoeddi bod Hywel Dda wedi ennill statws Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol.

Yn ystod ymweliad â’r rhanbarth, cadarnhaodd y Gweinidog fod y bwrdd iechyd wedi arddangos ei waith agos â Phrifysgol Aberystwyth  ynghyd â  Phrifysgolion Bangor, Caerdydd, Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar draws ystod eang o bynciau gan gynnwys addysg, ymchwil a datblygiad.

Mae’r perthnasoedd yn gyd-gynhyrchiol ac yn aml yn arloesol ac yn cynnig manteision i ofal iechyd, addysg ac ymchwil. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: “Mae’r newid yn yr enw yn adlewyrchu ymrwymiad gwirioneddol i ragoriaeth o ran partneriaeth ag addysg uwch, safon y gwasanaethau a ddarperir a pherfformiad yn gyffredinol.” 

Dywedodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa Gwyddorau Dynol Prifysgol Aberystwyth, “Rwy’n falch iawn bod Prifysgol Aberystwyth weld gallu cyfrannu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ennill statws Bwrdd Iechyd Prifysgol. Mae Aberystwyth wedi datblygu ystod o brosiectau arloesol pwysig ac arwyddocaol gyda Hywel Dda ers i ni lofnodi ein Memorandwm o Ddealltwriaeth ddwy flynedd yn ôl. Rwy’n hyderus y bydd y cynlluniau hyn ym meysydd ymchwil, datblygu gwasanaethau a gweithlu, ac ymgysylltiad cyhoeddus yn parhau i fod o fudd i’r ddau sefydliad yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae Hywel Dda wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf wrth sefydlu Bwrdd Arloesedd i gyfarwyddo gweithgarwch ymchwil a phenodi Cadeirydd Iechyd Gwledig. Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodaeth uwch o’r Prifysgolion a fydd yn helpu i ddarganfod atebion i’r heriau o ran iechyd gwledig a fydd o bosibl yn cael dylanwad byd-eang.

“Mae’r datblygiadau hyn yn dangos y modd yr ydym yn bwriadu bwrw ymlaen â’n cysylltiadau yn y dyfodol a dangos ein hymrwymiad i feithrin a chynnal y cysylltiadau cryf sydd gennym eisoes â Phrifysgolion lleol.”

AU45213