Cyfarwyddwr Dros Dro i IBERS

Yr Athro Chris Thomas

Yr Athro Chris Thomas

16 Rhagfyr 2013

Mae’r Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Aberystwyth, wedi cael ei benodi fel Cyfarwyddwr Dros Dro ar IBERS yn dilyn penodiad Athro Wayne Powell fel Prif Swyddog Gwyddoniaeth Grŵp Ymgynghorol ar Ymchwil Amaethyddol Rhyngwladol (CGIAR), sydd wedi'i leoli yn Montpellier yn Ffrainc. 

Yn Athro Sŵoleg yn IBERS, fe ymunodd Chris Thomas â Phrifysgol Aberystwyth yn 2007 ac fe’i benodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros Ymchwil ac Ansawdd Academaidd ym mis Mehefin eleni. 

Fe fydd yn dechrau ei rôl newydd ym mis Ionawr ac yn dechrau yn ei swydd dros dro yn IBERS ochr yn ochr â’i rôl fel Dirprwy Is-Ganghellor yn y Brifysgol. 

Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) i recriwtio Cyfarwyddwr newydd ar gyfer IBERS.

AU45113