Graddedigion Aber yn wynebu Paxman

Jeremy Paxman

Jeremy Paxman

16 Rhagfyr 2013

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith 14 prifysgol fydd yn cystadlu ar raglen Nadolig University Challenge eleni. Bydd y rhaglen yn cynnwys graddedigion amlwg ac yn cael ei chadeirio gan Jeremy Paxman.

Mae tîm Aberystwyth yn cynnwys Dr Timothy Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw, Chris Leek, Aelod o fwrdd Mensa Prydain, Elfyn Llwyd, bargyfreithiwr ac AS Plaid Cymru, a Dan Jarvis, AS sef Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder (bywgraffiadau isod).

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn wynebu Prifysgol Keele ar nos Llun 23 Rhagfyr ar BBC2 am 8yr hwyr.

Eglura Elfyn Llwyd, “Mae gan Aberystwyth le arbennig yn fy nghalon o hyd ac mae hi bob amser yn bleser cael dod nôl i Aberystwyth. 

“O ran University Challenge y Nadolig, y cyfan y gallaf ei ddweud yw iddo fod yn brofiad! Mae hyn yn dod gan rywun sydd wedi ymddangos ar Question Time fwy nag unwaith.”

Ychwanegodd Dr Timothy Brain, sy’n aelod ac yn Drysorydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, “Roedd yn anrhydedd mawr i gynrychioli Aberystwyth ac roedd yn llawer iawn o hwyl.”

Hon fydd y drydedd gyfres Nadolig i’w darlledu yn ystod cyfnod y Nadolig. Tîm yn cynrychioli’r Coleg Newydd, Rhydychen a enillodd y gystadleuaeth y llynedd.

Bydd pob tîm yn cystadlu yn un o saith gêm yn y rownd gyntaf. Bydd y pedwar tîm â’r sgôr uchaf yn ymddangos yn y ddwy rownd gynderfynol, a bydd yr enillwyr yn cwrdd yn y rownd derfynol.

 

Dan Jarvis AS
Aelod Seneddol dros Barnsley Central
Astudiodd Dan Wleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol yn Aberystwyth gan raddio yn 1996. Fel yn achos nifer o’i gyfoedion yn Aberystwyth, aeth yn syth o’r Brifysgol i’r Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst a’i ddyrchafu yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig yn 1997. Ymddiswyddodd o’r Fyddin yn 2011 i ymladd isetholiad seneddol ac ef bellach yw’r AS dros Barnsley Central; y mae hefyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder.

Dr Timothy Brain OBE QPM BA PhD FRSA CCMI
Cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
Roedd Dr Timothy Brain yn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw o 2001 tan ei ymddeoliad ym mis Ionawr 2010. Cyn hynny bu’n gwasanaethu yn ardaloedd Avon a Gwlad yr Haf, Hampshire a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Cyn ymuno â’r heddlu fe raddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn hanes o Brifysgol Aberystwyth ac yna ennill doethuriaeth eto ym maes hanes. Mae’r diddordeb mewn hanes yn parhau o hyd ac mae’n darlithio’n rheolaidd ar agweddau ar hanes eglwysig, milwrol a’r heddlu. Cyhoeddwyd ei lyfr, A History of Policing in England and Wales from 1974 gan Wasg Prifysgol Rhydychen ym Mawrth 2010. Cyhoeddwyd ei lyfr newydd, A future for policing, ym mis Hydref 2013.

Mae e’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, ac yn gymrawd anrhydeddus ym mhrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth. Mae e’n aelod a Thrysorydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Dyfarnwyd Medal Heddlu’r Frenhines iddo yn 2002 ac Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn 2008.

Chris Leek
Aelod o Fwrdd Mensa Prydain
Bu Chris yn Gadeirydd Mensa Rhyngwladol a Mensa Prydain ac ef ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr y ddau fwrdd.

Ganwyd Chris Leek yn Birmingham yn 1956 ac fe enillodd radd BSc mewn Swoleg o Brifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio yn y diwydiant Technoleg Gwybodaeth ar ôl graddio ac yn dilyn rhai blynyddoedd yn gweithio i Whitbread, symudodd Chris i weithio fel Cynllunydd Portffolio i BT Openreach. Mae ei wraig a’u tri phlentyn hefyd yn aelodau o Mensa.

Elfyn Llwyd
Bargyfreithiwr ac AS Plaid Cymru
Cafodd Elfyn Llwyd ei ethol i San Steffan dros Feirionnydd Nant Conwy yn 1992, yn dilyn ymddeoliad yr Arglwydd Elis-Thomas o Dŷ’r Cyffredin. Yn dilyn y newidiadau i’r ffiniau safodd fel ymgeisydd ar gyfer sedd newydd Dwyfor Meirionnydd yn etholiad 2010 a’i hennill.

Fe’i ganwyd ym Metws-y-Coed yn 1951, a’i addysgu yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg y Gyfraith, Caer. Ymgymhwysodd yn gyfreithiwr yn 1977 a’i alw i’r Bar yn 1997.

Elfyn Llwyd yw Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae’n aelod o’r Pwyllgor Dethol dros Gyfiawnder, ac ef yw llefarydd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad, Amddiffyn, Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Materion Tramor, Materion Tramor a Materion y Gymanwlad a Chyfiawnder.

AU43913