Academyddion Prifysgol Aberystwyth yn diogelu £2.1 miliwn

Yr Athro Peter Midmore

Yr Athro Peter Midmore

17 Rhagfyr 2013

Mae’r Athro Peter Midmore o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain prosiect gwerth £2.1 miliwn i ymchwilio i sut mae ymchwil wyddonol ar amaethyddiaeth yn effeithio’r economi, cymdeithas a'r amgylchedd yn Ewrop.

Ynghyd â naw o bartneriaid ar draws Ewrop a chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Andrew Henley a Dr Maria Plotnikova, bydd yn cydlynu prosiect dros y tair blynedd or enw IMPRESA (Effaith Ymchwil ar Amaeth yr UE).

Esboniodd yr Athro Midmore, "Mae wedi cael ei brofi fod  buddsoddiad cyhoeddus a masnachol mewn ymchwil ar amaethyddiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant ar  y fferm. Llai a wyddwn am ei effeithiau ar strwythur y fferm ac o amgylch cymunedau gwledig.

"Bydd y prosiect hefyd yn ystyried sut y gall ymchwil helpu busnesau, yn y byd ffermio ac ar hyd y gadwyn fwyd, i ymdopi â gostyngiadau tebygol mewn cymorthdaliadau cyhoeddus. Bydd dadansoddiad gofalus o wariant cyffredinol ymchwil amaethyddol ac amcanion yn cael ei gynnal a bydd astudiaethau achos eang o achosion unigol yn archwilio eu heffeithiau."

Bydd cyllideb yr UE ar gyfer ymchwil amaethyddol yn dyblu dros y blynyddoedd nesaf o'i gymharu â chyfnod 2009-2013. Bydd y casgliadau o'r astudiaeth yma yn helpu i lunio polisi ymchwil amaethyddol y dyfodol yn Ewrop.

Ychwanegodd yr Athro Midmore "Rwy'n falch iawn fod Prifysgol Aberystwyth wedi diogelu’r prosiect yma. Mae gwyddoniaeth amaethyddol yn chwarae rôl allweddol pan mae hi’n dod i ddatblygu incwm ac enw da'r Brifysgol.

"Yn seiliedig ar ein traddodiad hir o werthuso effeithiau polisi, gyda'n partneriaid, rydym yn edrych ymlaen at ddarparu tystiolaeth a fydd yn gwella'r effeithiau o gyllid amaethyddol Ewropeaidd yn y dyfodol."

Mae’r Athro Midmore yn arwain y Grŵp Economeg yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yng Nghanolfan Llanbadarn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae wedi bod yn ymchwilio i mewn i faterion economaidd amaethyddol a gwledig dros 30 mlynedd ac wedi ymchwilio yn helaeth ar fwriadau twf entrepreneuriaid busnesau bach, gweithgaredd entrepreneuriaid anffurfiol, a marchnadoedd llafur rhanbarthol.

AU42113