Canolfan y Celfyddydau yn cefnogi ymgyrch RSPB

Rachel Scurlock o’r Ganolfan Gelfyddydau (credit Arvid Parry Jones)

Rachel Scurlock o’r Ganolfan Gelfyddydau (credit Arvid Parry Jones)

18 Rhagfyr 2013

Mae Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei dewis fel un o bum safle pwysig yng Nghymru i hyrwyddo ymgyrch RSPB Cymru ‘Rhoi Cartref i Natur’, sy’n anelu i ysbrydoli mwy o bobl yng Nghymru i greu cartrefi natur newydd a denu mwy o fywyd gwyllt i’w gerddi.

Y pedwar safle tirnod eraill yng Nghymru yw Portmeirion, Castell Powis, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ag Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Nod yr ymgyrch, a lansiwyd ym mis Mehefin, yw helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n wynebu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad Cymru a fydd yn gweld blychau adar, gwestai chwilod a thai draenog yn cael eu gosod yn y lleoliadau eiconig hyn yn ogystal â thai ledled Cymru.

Dywedodd Louise Amery, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, "Mae hon yn ffordd wych o ennyn diddordeb y teulu cyfan mewn natur a gwerthfawrogi'r hyn sydd ganddynt ar eu stepen drws. Yn ddiweddar iawn roedd y Barcud Coch yn olygfa brin yn y rhan yma o Gymru ond ar ôl ymdrech i'w achub, mae bellach yn olygfa gyfarwydd yng Ngheredigion.

"Gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth a dechrau helpu i fynd i'r afael â chreu cynefinoedd ar gyfer rhai o greaduriaid gwyllt eraill Cymru. Os gall pawb wneud un peth yn unig a rhoi cartref yn eu gardd, byddai'n gam mawr ymlaen."

Daeth lansiad yr ymgyrch ar ôl i 25 o sefydliadau bywyd gwyllt, gan gynnwys RSPB Cymru, ryddhau’r adroddiad State of Nature sy’n datgelu bod 60 y cant o rywogaethau bywyd gwyllt a astudiwyd wedi dirywio dros y degawdau diwethaf.

Mae llawer o ffefrynnau’r ardd ymhlith y creaduriaid sy’n mewn trafferth ddifrifol, gan gynnwys y drudwy, draenogod, rhai gloÿnnod byw a’r fuwch goch gota. Mae pob un mewn perygl o ddirywiad pellach oni bai bod mwy yn cael ei wneud i ddarparu cynefinoedd gwell.

Y cam cyntaf yw cael pawb yng Nghymru i weithio gyda natur yn eu gerddi eu hunain o safbwynt RSPB Cymru, yn dilyn eu hymateb i adroddiad State of Nature.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yr elusen yn amlinellu'r hyn y gall busnesau, cymunedau a gwleidyddion ei wneud, yn ogystal â manylu cynlluniau RSPB Cymru ei hun ar gyfer arbed natur. Am fwy o wybodaeth, ewch i http://homes.rspb.org.uk/

AU46213