Rhoi hwb i nifer y menywod mewn gwyddoniaeth

Dr Rachel Horsley (chwith) a Dr Pip Nicholas

Dr Rachel Horsley (chwith) a Dr Pip Nicholas

02 Ionawr 2014

Mae ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i gydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi cael hwb ychwanegol gyda'r cyhoeddiad y bydd dwy wyddonwraig yn cael eu secondio i weithio, cefnogi a datblygu ceisiadau ar gyfer gwobr Efydd Athena SWAN Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 2014.

Mae Siarter Athena Swan yn cydnabod ac yn dathlu arferion da recriwtio, cadw a dyrchafu menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac wedi dod yn fwyfwy pwysig i Sefydliadau Addysg Uwch a Chynghorau Ymchwil yn y Deyrnas Gyfunol. 

Bydd Dr Rachel Horsley, uwch ddarlithydd mewn Seicoleg yn y Sefydliad y Gwyddorau Dynol, a Dr Pip Nicholas, Prif Ymchwilydd yn IBERS sydd â diddordeb cryf mewn systemau ffermio cynaliadwy ac organig, yn gweithio tuag at wneud cynnydd gwirioneddol tuag at amgylchedd gweithio gwell a helpu i oresgyn yr heriau sy'n wynebu menywod yn Aberystwyth.

Esboniodd Dr Nicholas, un o Hyrwyddwyr Amrywiath Athena SWAN, "Rydym yn gweld bod menywod yn cael eu tangynrychioli mewn gwyddoniaeth, yn enwedig mewn swyddi uwch. Rydym yn awyddus i ddechrau newid y cylch hwn drwy ddeall pam y gallai hyn fod a beth y gellid ei wneud i helpu merched gyrraedd eu llawn botensial yn y gweithle."

Ychwanegodd Dr Horsley, "Mae Athena SWAN yn canolbwyntio ar fenywod mewn gwyddoniaeth, ond rydym yn ymwybodol bod angen i ni gefnogi a hyrwyddo cyfleoedd gyrfa i bob aelod o’n staff yn yr adran academaidd a gwasanaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ni all gwyddoniaeth gyrraedd ei lawn botensial oni bai y gall elwa o dalentau'r boblogaeth gyfan."

Mae penderfyniad Aberystwyth i dderbyn dyfarniadau ffafriol yn cael ei adlewyrchu yn y ddau secondiad yma ac fe fydd y ddwy yn gweithio ar y prosiect am un diwrnod yr wythnos dros y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Dynol ac Athena SWAN, "Mae gan y ddwy ymchwil a chymwysterau academaidd rhagorol fel gwyddonwyr ac mae ganddynt angerdd ac ymrwymiad i gefnogi menywod mewn gwyddoniaeth.

"Mae Aberystwyth wedi’i ymroi i gefnogi cyfle cyfartal i bawb ac mae merched mewn arweinyddiaeth yn agwedd ar ddatblygiad cyfle cyfartal yr ydym yn benderfynol o wella."

Ochr yn ochr â chais Athena Swan, mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn gwneud cais am yr Uned Herio Cydraddoldeb Rhyw Siarter (GEM) sydd ar gyfer staff academaidd, staff proffesiynol a chefnogaeth, adrannau adnoddau dynol, cydraddoldeb ac ymarferwyr amrywiaeth.

AU44113