Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i’w neuaddau

Prom Aberystwyth

Prom Aberystwyth

07 Ionawr 2014

Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a orfodwyd i adael eu llety yn neuaddau preswyl glan y môr y Brifysgol oherwydd y tywydd gwael bellach yn medru dychwelyd i'w neuaddau. 

Gorfodwyd tua 150 o fyfyrwyr i adael eu llety ar Ddydd Llun 6 Ionawr ac maent wedi bod yn aros mewn llety arall ar gampws Penglais lle darparwyd bwyd a diodydd poeth iddynt yn rhad ac am ddim gan y Brifysgol. 

Yn ogystal, cynigwyd llety dros dro i tua 100 o fyfyrwyr sy'n lletya yn y sector preifat ynghyd â bwyd a diodydd poeth. 

Bydd y myfyrwyr yn gallu dychwelyd i’w llety yn nes ymlaen y bore yma ar ôl i’r profion diogelwch angenrheidiol gael eu cwblhau. 

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff: "Mae’r diwrnodau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i’r rhai sy’n byw mewn neuaddau glan y môr ac rydym yn falch iawn o allu caniatáu i bawb ddychwelyd i'w llety o’r diwedd." 

"O ystyried yr hyn oll sydd wedi bod yn digwydd, mae'r myfyrwyr wedi bod yn hynod amyneddgar ac mae hwyliau pawb wedi bod yn dda iawn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau staff, y gwasanaethau brys, Cyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru, y gymuned leol, a’r cwmnïau rheilffyrdd a bysiau sydd wedi bod yn ddiflino yn eu hymdrechion i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn sych, cysurus a diogel.”

AU613