Y Brifysgol yn buddsoddi yn nyfodol ei harweinwyr benywaidd

Yr Athro Kate Bullen

Yr Athro Kate Bullen

23 Ionawr 2014

Mae’r Brifysgol yn cefnogi pum aelod o staff benywaidd i fod yn rhan o raglen Sefydliad Arweinyddiaeth Aurora ar gyfer Addysg Uwch (Leadership Foundation for Higher Education – LFHE), sef menter datblygu arweinyddiaeth newydd i fenywod a lansiwyd y llynedd. 

Mae'r fenter hon yn ymateb i ymchwil y LFHE ei hun sy'n dangos bod llai o ferched yn y swyddi uchaf mewn addysg uwch nawr nag oedd ddeng mlynedd yn ôl. 

Er bod y rhan fwyaf o raglenni arweinyddiaeth yn cael eu hanelu at arweinwyr a rheolwyr sydd eisoes yn y rôl, mae Aurora wedi'i gynllunio i alluogi amrywiaeth eang o fenywod mewn swyddi academaidd a phroffesiynol mewn addysg uwch i gael manteisio ar hyfforddiant datblygu arweinyddiaeth yn gynt yn eu gyrfaoedd. 

Eglurodd un o’r rhai sy’n rhan o’r rhaglen, y Dr Ifat Parveen Shah sy’n wyddonydd ymchwil gydag IBERS, "Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar fy sgiliau arwain sylfaenol a chael gwell dealltwriaeth o ddulliau arwain, yn ogystal â datblygu fy sgiliau empathi ac ysgogol er mwyn imi allu cyflawni fy llawn botensial yn fy ngyrfa." 

Bydd Jean Jones o'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth hefyd yn bresennol ar y cwrs ac ychwanegodd, "Bydd cymryd rhan yn y rhaglen arweinyddiaeth yma yn rhoi cyfle i mi i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd. Bydd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio gyda chydweithwyr yn y sector addysg uwch, gan rannu arferion da a dod â’r profiadau hyn yn ôl i’r Brifysgol er budd pawb arall." 

Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi cyfle cyfartal i bawb ac mae merched mewn arweinyddiaeth yn un agwedd ar ddatblygu cyfle cyfartal mae’r Brifysgol yn benderfynol o’i gwella. 

Ym mis Ebrill 2014, bydd y Brifysgol yn gwneud cais am wobr Efydd Sefydliadol Athena SWAN gydag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod a dathlu arferion da wrth recriwtio, cadw a dyrchafu menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. 

Mae Aurora yn anelu at alluogi ystod ehangach o fenywod mewn swyddi academaidd a phroffesiynol i feddwl amdanynt eu hunain fel arweinwyr y dyfodol, i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt, ac i helpu eu sefydliadau i wneud y defnydd gorau o'r sgiliau maent yn eu hennill. Gellir cael mwy o wybodaeth yma: http://www.lfhe.ac.uk/en/programmes-events/you/aurora/%20

Y bum wraig o Aberystwyth sy’n rhan o’r rhaglen yw: Dr Sarah Riley o’r Adran Seicoleg, Dr Anoush Simon o'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Dr Sarah Davies o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Dr Ifat Parveen Shah a Ms Jean Jones. 

Bydd pob un ohonynt yn cael eu cefnogi gan fentor yn y Brifysgol dros y flwyddyn nesaf a fydd yn darparu cymorth ac arweiniad ar eu datblygiad. 

Dywedodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol ac arweinydd Athena SWAN, "Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth gan gyfarwyddwyr yr athrofeydd sydd wedi darparu cyllid ar gyfer ffioedd, llety a chostau teithio. Mae’n galonogol iawn gweld y lefel o gyfranogiad a’r brwdfrydedd ymhlith cydweithwyr ar draws y Brifysgol dros hyfforddiant arweinyddiaeth i fenywod. 

"Bydd Aurora yn gyfraniad sylweddol tuag at y dystiolaeth sy’n dangos ymrwymiad Aberystwyth i ddatblygu menywod yn yr adrannau academaidd a gwasanaeth. Bydd Aurora yn allweddol wrth ddangos ein gweithgarwch cadarnhaol yn y cyflwyniadau i Athena SWAN a’r Siarter Cydraddoldeb Rhywedd (GEM) ym mis Ebrill 2014." 

Ochr yn ochr â'r cais i Athena Swan, mae’r Brifysgol hefyd yn gwneud cais i’r Uned Her Cydraddoldeb am Siarter Cydraddoldeb Rhywedd (Gender Equality Chartermark – GEM), sydd ar gyfer staff academaidd, staff proffesiynol a chynorthwyol, adrannau adnoddau dynol, ac ymarferwyr cydraddoldeb ac amrywioldeb.

AU914