Coedwigoedd hynafol

Yr Athro Henry Lamb

Yr Athro Henry Lamb

23 Ionawr 2014

Mae’r Athro Henry Lamb o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol wedi bod yn trafod y coedwigoedd hynafol Tywyn heddiw gyda thîm BBC News.

Yn dilyn y stormydd diweddar a fu’n chwipio arfordir Cymru, daeth olion o dirwedd oes y Cerrig i’r amlwg.

Cafodd yr ardal pedair milltir ar hyd yr arfordir ger Tywyn ei newid gymaint nes ei bod wedi ei gwthio yn ôl 50 troedfedd (15 metr).

Mae'r arfordir newydd wedi datgelu bodolaeth coedwig hynafol, gyda gweddillion coed sy’n dyddio’n ôl 6000 o flynyddoedd.

Mae Dr Lamb yn arbenigwr ar ddyddio radio carbon, sy’n cael ei ddefnyddio’n eang i fesur oed safleoedd archeolegol, digwyddiadau hinsawdd yn y gorffennol a newidiadau i'r amgylchedd.

Drwy ddefnyddio dulliau newydd gyda sganiwr creiddiau pelydr-x uwch-dechnoleg, gall Dr Lamb ymgymryd ag astudiaeth fanwl o ddarn metr o hyd o’r craidd mewn ychydig oriau, a hynny mewn camau o 60 micron - mae un micron yn filfed rhan o filimetr.

AU3014