Dwy fyfyrwraig o Aberystwyth yn llofnodi cytundeb llyfrau

Kate Hamer

Kate Hamer

28 Ionawr 2014

Mae gwaith dau o fyfyrwyr ôl-raddedig yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol wedi cael eu derbyn gan gyhoeddwyr o bwys yn y Deyrnas Gyfunol. 

Bydd Gretel and the Dark, nofel Eliza Granville, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr Ysgrifennu Creadigol PhD, yn cael ei chyhoeddi gan Hamish Hamilton, un o wasgnodau Penguin, ar Chwefror 6ed 2014. Nofel lenyddol a ysbrydolwyd gan chwedlau tylwyth teg Grimm yw hon. 

Mae Kate Hamer, sydd newydd gwblhau gradd MA mewn ysgrifennu creadigol yn Aberystwyth, wedi cael ei harwyddo ar gyfer dau lyfr gan Faber. Bydd nofel gyntaf Kate, The Girl in the Red Coat, yn cael ei chyhoeddi yng Ngwanwyn 2015. 

Daeth y llyfr i fod yn gyntaf fel eitem o waith cwrs ar gyfer MA mewn Ysgrifennu Creadigol, sy’n darparu hyfforddiant trylwyr, ymarferol yn y grefft o ysgrifennu a’r diwydiant cyhoeddi. 

Mae’r nofel yn adrodd hanes merch ifanc, Carmel, a’i mam.  Pan mae Carmel yn mynd ar goll mewn gŵyl un diwrnod, mae’r fam a’r ferch yn cychwyn ar eu teithiau brawychus eu hunain, mewn dirgelwch gydag isleisiau o stori tylwyth teg. 

Dywedodd Kate, a’i magwyd yn Sir Benfro a bellach yn byw yng Nghaerdydd, “Pan glywais i fod Faber eisiau cyhoeddi The Girl in the Red Coat roeddwn i wedi fy ngwefreiddio. I nofelydd sydd wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf, does dim byd gwell na chael clywed bod ar gyhoeddwr mor chwedlonol eisiau ei llyfr.”  

Mae Sarah Savitt o Faber wedi galw Kate yn “llais newydd nodedig yn ffuglen Prydain”. Mae’r hawliau Almaeneg i’r nofel wedi eu gwerth am swm o chwe ffigur. Yn flaenorol mae hi wedi ennill gwobr stori fer Rhys Davies, yn ogystal â bwrsari Llenyddiaeth Cymru.

Daw llwyddiant Kate yn syth ar ôl cytundeb cyhoeddi arall i un o ôl-raddedigion yr adran. Gretel and the Dark yw nofel newydd Eliza sy’n llawn tywyllwch, drygioni a gobaith. 

Wedi’i osod yn Fienna yn 1899, mae Josef Breuer yn seicoanalydd enwog ac mae ar fin dod ar draws ei achos rhyfeddaf eto. Wedi’i darganfod mewn gwallgofdy, yn denau, gyda’i phen wedi eillio, mae hi'n honni nad oes ganddi enw, teimladau ac nad yw yn ddynol hyd yn oed. Mae Breuer yn penderfynu dirnad gwreiddiau ei aflonyddwch.

Meddai Eliza: “Fe fyddaf bob amser yn ddiolchgar am y gefnogaeth rydw i wedi ei derbyn - ac yn parhau i’w derbyn - gan yr adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.  Credaf mai ceisio am le yn Aberystwyth oedd un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed. Mae yma ddisgwyliad am gyhoeddi nad yw ar gael mewn sefydliadau eraill.”  

Meddai Anna Kelly, golygydd cynorthwyol yn Hamish Hamilton: “Allwn i ddim bod yn falchach ein bod yn mynd i gyhoeddi’r gyfrol wirioneddol wreiddiol ac ysgogol hon. Mae Eliza Granville yn storïwraig naturiol.” 

Llongyfarchwyd y ddwy fyfyrwraig ar eu llwyddiant gan Dr Katherine Stansfield, darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol: “Mae pawb yn yr adran yn hynod o falch dros Kate ac Eliza. Mae cael eu derbyn gan gyhoeddwyr mor flaenllaw â Faber a Penguin yn gamp anhygoel, ac mae’n dystiolaeth o ansawdd yr ysgrifenwyr sy’n gweithio yn yr adran a’r gefnogaeth a roir iddynt gan y staff."

AU3214