Myfyrwyr yn dychwelyd i Breswylfeydd Glan y Môr

Preswylfeydd Glan y Môr

Preswylfeydd Glan y Môr

03 Chwefror 2014

Gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, a gafodd eu hadleoli o Breswylfeydd Glan y Môr y Brifysgol oherwydd y tywydd garw, ddychwelyd i’w neuaddau heddiw, Dydd Llun 3 Chwefror. 

Cafodd tua 600 o fyfyrwyr eu hadleoli ar ddydd Gwener 31 Ionawr rhag ofn, oherwydd llanw uchel a’r tywydd garw a ragwelwyd ar gyfer y penwythnos. 

Cafodd y 450 o fyfyrwyr sy'n byw ym Mhreswylfeydd Glan y Môr y Brifysgol a'r 150 sy’n byw mewn llety yn y sector preifat ar lan y môr gynnig llety arall a phrydiau bwyd gan y Brifysgol neu docynnau i deithio adref neu ran arall o'r Deyrnas Gyfunol tan i’r tywydd wella. 

Yn dilyn llanw uchel a thywydd garw nos Sadwrn bu staff cynnal a chadw’r Brifysgol yn gwneud gwaith atgyweirio yn ystod dydd Sul yn dilyn mân ddifrod i lawr isaf yr adeiladau. Fodd bynnag, nid chafodd unrhyw un o ystafelloedd y myfyrwyr eu heffeithio.

Mae mwy o brofion diogelwch wedi eu gwneud ar Breswylfeydd Glan y Môr heddiw wrth i’r myfyrwyr baratoi i ddychwelyd. 

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff; “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu caniatáu i’n myfyrwyr ddychwelyd i Breswylfeydd Glan y Môr heddiw ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cydweithrediad yn ystod y pedwar diwrnod diwethaf.” 

“Roedd y penderfyniad i ofyn i bawb adleoli yn hwyr yr wythnos ddiwethaf yn un anodd gan nad oes modd rhagweld yn fanwl beth fydd effaith llanw uchel a thywydd garw.   

“Yn ystod y penwythnos, hysbyswyd y Brifysgol bod angen gweithredu ar unwaith oherwydd llifogydd llanw a fyddai wedi golygu symud myfyrwyr Preswylfeydd Glan y Môr i le diogel ar o leiaf bedwar achlysur gwahanol dros y penwythnos; ar fore Sadwrn, nos Sadwrn, nos Sul a bore Llun. Byddai hyn wedi arwain at orfod symud myfyrwyr dro ar ôl tro. O’r herwydd rydym yn argyhoeddedig ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir." 

"Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r aelodau hynny o staff a fu’n gweithio dros y penwythnos i sicrhau bod pawb yn ddiogel, yn gynnes ac wedi eu bwydo, ac i gydweithwyr yng Nghyngor Sir Ceredigion ac Adnoddau Naturiol Cymru am eu cydweithrediad.”

Bydd yr holl weithgareddau addysgu yn ailddechrau fel arfer ar ddydd Mawrth 4 Chwefror.

AU3814